Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 31 Mawrth 2021.

Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 31 Mawrth 2021 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol wedi dod i mewn i helpu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). O ystyried yr amseru, ni fyddai unrhyw effaith ar niferoedd staff mewn ymateb i COVID-19 yn debygol o fod yn fawr ar 31 Mawrth 2020.

Nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yn y swydd ar 31 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2021 yn ôl grŵp staff (cyfwerth ag amser llawn)

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 31 Mawrth 2020 a 2021. Mae pob grŵp oni bai am Cynorthwywyr a gweithwyr cymorth gofal iechyd wedi cynyddu ers 31 Mawrth 2020.
  • Bu cynnydd o 5,854 (7.1%) yng nghyfanswm nifer staff i 88,259.
  • Bu cynnydd o 492 (7.2%) yn y staff meddygol a deintyddol i 7,294.
  • Bu cynnydd o 2,388 (7.1%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 36,027.
  • Bu cynnydd o 2,974 (7.1%) yn nifer y grwpiau staff eraill i 44,938.
  • Cynyddodd cyfrif pennau staff fesul 6,853 (6.9%) i 102,681.

Nodiadau

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim datganiad ystadegol.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir manylion llawn yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.