Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 30 Mehefin 2022.

Rhwng 30 Mehefin 2021 a 30 Mehefin 2022 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn)

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 30 Mehefin 2021 a 2022. Mae pob grŵp wedi cynyddu ers 30 Mehefin 2021.
  • Bu cynnydd o 2,505 (2.8%) yng nghyfanswm nifer staff i 90,788.
  • Bu cynnydd o 300 (4.1%) yn y staff meddygol a deintyddol i 7,578.
  • Bu cynnydd o 90 (0.3%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 36,020.
  • Bu cynnydd o 2,115 (4.7%) yn nifer y grwpiau staff eraill i 47,190.
  • Cynyddodd cyfrif pennau staff fesul 2,566 (2.5%) i 105,357.

Nodiadau

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim datganiad ystadegol.

Mae nifer yr ymwelwyr iechyd wedi gostwng ers 31 Rhagfyr 2021. Mae hyn yn bennaf oherwydd mater gweinyddol ym mwrdd iechyd Hywel Dda ble mae’n ymddangos bod nifer o ymwelwyr iechyd wedi eu cofnodi fel nyrsys cymunedol. Mae’r bwrdd iechyd yn gweithio ar ddatrysiad a bydd diweddariad y cael ei ddarparu yn y datganiad chwarterol nesaf. Nid yw nifer cyffredinol y staff nyrsio cofrestredig yn cael eu heffeithio gan y mater hwn.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir manylion llawn yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Bethan Sherwood

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.