Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 30 Mehefin 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG
Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 30 Mehefin 2021 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol wedi dod i mewn i helpu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).
Nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yn y swydd ar 30 Mehefin 2020 a 310 Mehefin 2021 yn ôl grŵp staff (cyfwerth ag amser llawn)
- Bu cynnydd o 2,825 (3.3%) yng nghyfanswm nifer staff i 88,283.
- Bu cynnydd o 262 (3.7%) yn y staff meddygol a deintyddol i 7,278.
- Bu cynnydd o 33 (0.1%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 35,930.
- Bu cynnydd o 2,529 (5.9%) yn nifer y grwpiau staff eraill i 45,075.
-
Cynyddodd cyfrif pennau staff fesul 3,130 (3.1%) i 102,791.
Nodiadau
Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim datganiad ystadegol.
Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.
Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir manylion llawn yn yr adroddiad ansawdd.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.