Neidio i'r prif gynnwy

Y GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi mwy na 99,000 o bobl, mewn mwy na 85,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Mae data o 1979 ar gael ar gyfer staff a gyflogir gan y GIG; fodd bynnag, yn sgil newidiadau yng nghategorïau’r staff, dim ond y niferoedd cyffredinol y gellid eu cymharu'n union dros amser.

Mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i Lawlyfr Codau Galwedigaethau'r GIG, a chanfuwyd nifer o broblemau gydag ansawdd data yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain yn effeithio ar y cymariaethau dros amser ar gyfer rhai grwpiau staff; ceir rhagor o fanylion yn yr Adroddiad ansawdd.

Mae’r cyfnod amser a gwmpesir gan y data hwn yn cynnwys y pandemig coronafeirws (COVID-19). Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 30 Medi 2020 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol - roedd y rhain yn cynnwys dod â staff a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar i mewn i helpu yn ystod y pandemig COVID-19.

Nid yw'r data'n cynnwys Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a rhai Ymarferwyr Deintyddol gan eu bod yn Gontractwyr annibynnol i'r GIG.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

1. Prif bwyntiau

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 30 Medi 2019 a 2020. Mae pob grŵp wedi cynyddu ers 30 Medi 2019.

Staff y GIG ar StatsCymru

Rhwng 30 Medi 2019 a 30 Medi 2020 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn)

  • Bu cynnydd o 4,101 (5.1%) yng nghyfanswm nifer y staff i 85,145.
  • Bu cynnydd o 518 (7.7%) yn nifer y staff meddygol a deintyddol i 7,211.
  • Bu cynnydd o 1,462 (4.4%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 34,762.
  • Bu cynnydd o 2,121 (5.2%) mewn grwpiau staff eraill i 43,172.

2. Crynodeb o’r staff a gyflogir

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru pob blwyddyn rhwng 1979 a 2020, yn ôl grŵp staff. Mae’r siart yn dangos bod nifer y staff cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu 81.5% ers 1979 ac wedi cynyddu 5.1% yn y flwyddyn ddiweddaraf.

Staff y GIG ar StatsCymru

Mae nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG (cyfwerth ag amser llawn) wedi cynyddu o 46,909 yn 1979 i 85,145 yn 2020, cynnydd o 81.5%. Y cynnydd o 5.1% yn nifer y staff rhwng 30 Medi 2019 a 30 Medi 2020 yw’r mwyaf a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gall hyn fod yn rhannol oherwydd staff dros dro mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Tabl 1: Nifer y staff (cyfwerth ag amser llawn) a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru ar 30 Medi 2019 a 30 Medi 2020, a’r newid canrannol ers 30 Medi 2019
Grwpiau staff Ar 30 Medi 2019 Ar 30 Medi 2020 % newid o 2019
Meddygol a deintyddol
  Meddygol yn yr ysbyty (a) 6,346 6,798 7.1%
  Deintyddol yn yr ysbyty 170 169 -0.6%
  Meddygol cymunedol / iechyd cyhoeddus 45 49 9.1%
  Deintyddol cymunedol / iechyd cyhoeddus (b) 132 195 47.8%
  Holl staff meddygol a deintyddol 6,693 7,211 7.7%
Nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd
  Nyrsys ac ymwelwyr iechyd cofrestredig 21,359 21,898 2.5%
  Bydwragedd cofrestredig 1,389 1,377 -0.9%
  Staff cymorth (c)(d) 10,552 11,487 8.9%
  Holl staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd 33,301 34,762 4.4%
Gwyddonol, therapiwtig a thechnegol
  Staff cymwysedig 10,559 11,164 5.7%
  Staff cymorth (c)(d) 3,218 3,347 4.0%
  Holl staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol 13,777 14,512 5.3%
Gweinyddol ac ystadau
  Uwch-reolwr / rheolwr 2,621 2,538 -3.2%
  Clerigol a Gweinyddol 14,969 15,770 5.3%
  Cynnal a Chadw a Gweithfeydd 1,097 1,415 29.0%
  Holl staff gweinyddol ac ystadau 18,687 19,722 5.5%
Cynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill
  Cynorthwyydd Gofal Iechyd (c) 85 94 10.4%
  Gweithiwr cymorth 5,985 6,080 1.6%
  Holl Gynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill 6,071 6,174 1.7%
Ambiwlans
  Staff cofrestredig 1,100 1,151 4.6%
  Staff cymorth (d) 1,331 1,518 14.1%
  Holl staff ambiwlans 2,431 2,670 9.8%
Staff eraill
  Staff anfeddygol eraill (e) 86 94 9.5%
  Cyfanswm 81,044 85,145 5.1%

Ffynhonnell: Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

(a) Gweler Meddygon Teulu dan hyfforddiant.
(b) Gweler Deintyddion (staff deintyddol nad ydynt yn yr ysbyty).
(c) Gweler Cynorthwywyr Gofal Iechyd (H1) a Chynorthwywyr Nyrsio / Nyrsys Cynorthwyol (N9).
(d) Gweler Personél Ambiwlans.
(e) Staff ar daliadau cyffredinol, a staff anfeddygol eraill. Gweler hefyd Staff eraill.

Ceir rhagor o fanylion yn yr adran Ansawdd data a newid codau yn yr Adroddiad Ansawdd.

Bu cynnydd yn nifer y staff ar gyfer pob grŵp staff o 30 Medi 2019 i 30 Medi 2020. Mae’n debygol bod rhai staff a gyflogwyd dros dro yn ystod y pandemig COVID-19 yn parhau ar y system ESR.

  • Bu cynnydd o 452 (7.1%) yn nifer y staff meddygol yn yr ysbyty i 6,798. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd o 99 (4.0%) yn nifer yr ymgynghorwyr meddygol yn yr ysbyty i gyfanswm o 2,612 ar 30 Medi 2020.
  • Bu cynnydd o 539 (2.5%) yn nifer y staff nyrsio ac ymwelwyr iechyd cofrestredig i 21,898; a bu cynnydd o 936 (8.9%) yn nifer y staff cymorth nyrsio i 11,487. Bu lleihad o 13 (0.9%) yn nifer y staff bydwreigiaeth cofrestredig i 1,377.
  • Bu cynnydd o 734 (5.3%) yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol i 14,512. Ar 30 Medi 2020, roedd 77% o staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol yn gymwysedig a 23% yn gweithio mewn graddfeydd cymorth.
  • Bu cynnydd o 1,036 (5.5%) yn nifer y staff gweinyddol ac ystadau i 19,722. Ar 30 Medi 2020, roedd 80% o staff gweinyddol ac ystadau yn staff clerigol a gweinyddol.
  • Bu cynnydd o 104 (1.7%) yn nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill i 6,174. Ar 30 Medi 2020, roedd 98% o’r staff yn y grŵp hwn yn weithwyr cymorth eraill.
  • Bu cynnydd o 239 (9.8%) yn nifer y staff ambiwlans i 2,670. Ar 30 Medi 2020, roedd 43% o’r cyfanswm staff ambiwlans yn staff cofrestredig.
  • Bu cynnydd o 8 (9.5%) yng nghyfanswm nifer y staff anfeddygol eraill i 94.

Mae dadansoddiadau manylach o fewn y grwpiau staff, yn cynnwys niferoedd staff ar gyfer sefydliadau GIG unigol, ar gael ar StatsCymru.

Image
Siart cylch yn dangos cyfradd y staff yn ôl grŵp staff ar 30 Medi 2020. Y grŵp mwyaf yw’r grŵp staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, sy’n cyfateb a 41% o’r cyfanswm.

 

Ar 30 Medi 2020, roedd bron hanner y staff oedd yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru naill ai'n staff meddygol a deintyddol, neu'n perthyn i'r grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd. Y grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd oedd y grŵp staff mwyaf, yn cyfrif am 41% o'r holl staff.

Mae data crynodeb staff ar gael ar StatsCymru.

3. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn yr Adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

12 Mai 2021

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6735
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 41/2021