Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r ystadegau hyn?

Mae'r ystadegau hyn yn cyflwyno gwybodaeth chwarterol am nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru yn ôl sefydliad, grŵp staff a gradd neu faes gwaith.

Ffynhonnell y data a'r fethodoleg

Mae’r data yn y datganiad hwn a thablau cysylltiedig StatsCymru yn dod o'r Cofnod Staff Electronig (ESR) a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). System gyflogres ac adnoddau dynol ar gyfer holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru a Lloegr yw'r ESR. Caiff detholiad ei lawrlwytho’n chwarterol o Warws Data yr ESR sy'n rhoi manylion ar gyfer pob aelod o staff y GIG yng Nghymru ar yr ESR ar ddiwrnod olaf y chwarter. Mae dadansoddiad manwl o raddfeydd a meysydd gwaith staff a ddefnyddir yn yr ESR ar gael yn Llawlyfr Codau Galwedigaethau’r GIG.

Mae'r data'n cynnwys yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru. Mae staff a gyflogir yn uniongyrchol ar absenoldeb mamolaeth/tadolaeth, absenoldeb salwch neu seibiant gyrfa wedi'u cynnwys. Nid yw staff asiantaeth na banc wedi'u cynnwys.

Caiff staff gofal sylfaenol fel y rhai a gyflogir mewn practisau meddygol cyffredinol a phractisau deintyddol y GIG eu heithrio. Mae practisau gofal sylfaenol wedi’u contractio’n wahanol i staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG. Caiff datganiadau ystadegol eu cyhoeddi ar wahân ar gyfer y staff hyn.

Nid yw staff mewn swyddi locwm a gyflogir yn uniongyrchol, neu drwy asiantaeth, wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn. Nid yw Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol Locwm, Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a gyflogir yn uniongyrchol a staff deintyddol a meddygol cymunedol/iechyd y cyhoedd sy'n cael taliadau cyffredinol wedi’u cynnwys chwaith. Ni chaiff cofnodion sydd heb god galwedigaethol eu cynnwys. Mae'r cofnodion hyn yn cyfrif am ddim mwy na 5 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) mewn unrhyw flwyddyn benodol.

Ar gyfer staff sy'n gweithio mewn mwy nag un aseiniad (swydd), caiff y ffigur sy'n gyfwerth ag amser llawn ar gyfer yr holl aseiniadau ei gynnwys. Mae un FTE yn cyfateb i berson sy'n gweithio’r oriau safonol ar gyfer eu gradd. Mae'r mwyafrif helaeth (dros 90%) o staff a gyflogir yn uniongyrchol yn GIG Cymru ar raddfeydd cyflog Agenda ar gyfer Newid (ac eithrio meddygon, deintyddion ac uwch reolwyr). Mae'r rhai sydd ar raddfeydd cyflog Agenda ar gyfer Newid wedi'u contractio i weithio wythnos waith safonol o 37.5 awr os yn llawn amser. Er nad ydynt ar y raddfa gyflog Agenda ar gyfer Newid, mae ymgynghorwyr meddygol yn gweithio mewn sesiynau sy'n 3.75 awr y sesiwn, gyda deg sesiwn yr wythnos, sy'n golygu bod un cyfwerth ag amser llawn yn hafal i 37.5 awr. Fel arfer, mae meddygon dan hyfforddiant yn gweithio 40 awr yr wythnos.

Caiff niferoedd cyfwerth ag amser llawn eu cyfrifo drwy rannu nifer yr oriau y caiff staff ar raddfa benodol eu contractio i weithio â’r oriau safonol ar gyfer y raddfa honno. Er enghraifft, os contractiwyd staff i weithio 18.75 awr, a bod yr oriau safonol yn 37.5 awr, mae hyn yn cyfrif am 0.5 cyfwerth ag amser llawn. Felly, caiff staff rhan-amser eu trosi i'r ffigur cyfatebol ar gyfer staff llawn-amser. Dros amser, cyfwerth ag amser llawn yw'r ffordd fwyaf addas o fesur adnodd staff ac felly dyma'r dull mesur a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol.

Cylch prosesu data

Cyflwynir data gan AaGIC ar daenlenni Excel drwy Afon, system ddiogel Llywodraeth Cymru ar gyfer trosglwyddo data gwe.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu, ac mae ymholiadau'n cael eu cyfeirio at AaGIC a chysylltiadau yn y GIG lle bo angen.

Ar ôl eu dilysu, cyhoeddir data yn unol â datganiad ar gyfrinachedd a mynediad data bob chwarter.

Ar hyn o bryd, cyhoeddir ystadegau chwarterol gyda dadansoddiad a sylwebaeth fer, yn ogystal â thablau fformat data agored a gyhoeddir ar StatsCymru. Cyhoeddir datganiad ystadegol manylach ar gyfer data fel ar 30 Medi bob blwyddyn.

Cyhoeddir data yn ôl grŵp staff a gradd neu faes gwaith ar lefel bwrdd iechyd lleol a chenedlaethol. Mae’r diweddariadau ar 30 Medi o 2022 ymlaen yn cynnwys gwybodaeth am nodweddion staff y GIG yng Nghymru.

Cwmpas

Mae ystadegau staff y GIG yn ymwneud â'r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru yn ystod y cyfnodau cofnodi. Cofnodir y staff hyn ar yr ESR sy'n gweithredu fel ffynhonnell ddata ar gyfer ystadegau chwarterol Staff y GIG a'r ystadegau Absenoldeb oherwydd Salwch.

Cyflwynir ystadegau bob chwarter o ddechrau blwyddyn galendr ymlaen.

Cyhoeddir data sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad ar StatsCymru.

Mae data o 1979 ar gael; fodd bynnag, mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i Lawlyfr Codau Galwedigaethau'r GIG, a chanfuwyd nifer o broblemau gydag ansawdd data yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain yn effeithio ar y cymariaethau dros amser ar gyfer rhai grwpiau staff.

Sut y gallai’r ystadegau hyn gael eu defnyddio?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • llywio trafodaeth yn y Senedd a thu hwnt
  • monitro a gwerthuso lefelau staffio yn y GIG yng Nghymru

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hwn?

Y prif ddefnyddwyr yw:

  • gweinidogion, aelodau o'r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
  • sefydliadau'r GIG
  • y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru
  • meysydd eraill yn Llywodraeth Cymru
  • awdurdodau lleol
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Os ydych chi'n ddefnyddiwr a’ch bod yn teimlo nad yw’r rhestr uchod yn eich cwmpasu'n ddigonol, neu os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr ddosbarthu, rhowch wybod i ni drwy e-bostio ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Cryfderau a Chyfyngiadau'r data

Cryfderau

  • Mae data yn cwmpasu holl sefydliadau'r GIG ac mae'n cynnwys yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru.
  • Mae data ar gael yn ôl grŵp staff er bod rhai ychydig yn wahanol i’r rhai a ddefnyddir i adrodd yn chwarterol ar gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG.
  • Darperir data manylach gan gynnwys gwybodaeth yn ôl gradd neu faes gwaith drwy ein gwefan StatsCymru.
  • Mae data o 1979 ar gael; fodd bynnag, yn sgil newidiadau yng nghategorïau’r staff, dim ond y niferoedd cyffredinol y gellid eu cymharu'n union dros amser.
  • Adroddir data bob chwarter i ddarparu data mwy amserol.
  • Mae’r data ar 30 Medi o 2022 ymlaen yn cynnwys gwybodaeth am nodweddion staff fodd bynnag mae data ar goll ar gyfer rhai meysydd.

Cyfyngiadau

  • Mae gan niferoedd staff rai patrymau tymhorol. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.
  • Mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i Lawlyfr Codau Galwedigaethau'r GIG, a chanfuwyd nifer o broblemau gydag ansawdd data yn y blynyddoedd diwethaf. Ystyrir bod y data ar lefel uchel yn gadarn, ond mae dadansoddiadau manylach yn dangos yn glir bod anghysondebau yn y data rhwng byrddau iechyd a rhwng blynyddoedd.

Ansawdd data a newid codau

Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o broblemau wedi'u canfod gydag ansawdd y data. Mae rhai problemau wedi cael eu datrys, tra bo eraill heb eu datrys. Er mwyn helpu defnyddwyr i ddehongli'r data hynny a deall ble allai cyfyngiadau fodoli, rydym wedi cyflwyno'r adran hon i roi disgrifiad mwy clir o'r meysydd hynny

Problemau parhaus gydag ansawdd a chodau

Nyrsys ardal

Yn 2016, nodwyd gostyngiad mawr yn y niferoedd o nyrsys ardal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro rhwng 2015 a 2016. Yn ystod y flwyddyn ganlynol, gwnaeth Caerdydd a'r Fro ailbennu codau nifer o nyrsys nôl i fod yn nyrsys ardal. Yn dilyn gwelliannau i'r Cofnod Staff Electronig a’r cysylltiad i ddata’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) mae yn bosibl gweld faint o nyrsys ardal (a staff eraill) sydd â'r cymhwyster Ymarferydd Arbenigol: Nyrs Ardal (SP:DN) perthnasol. Mae Llawlyfr Codau Galwedigaethau’r GIG yn nodi'n glir mai dim ond y rheini sydd â'r cymhwyster perthnasol ddylai gael cod nyrs ardal, ac y dylent gael eu talu ar fand 6 neu'n uwch. 

Ar 30 Medi 2023, cofnodwyd bod bron i hanner (45%) o nyrsys ardal â’r cymhwyster SP:DN ychwanegol. Roedd y ganran yn amrywio’n eang rhwng byrddau iechyd ac yn amrywio o 78% i 14%.

O’r holl staff nyrsio â’r cymhwyster SP:DN , roedd ychydig dros hanner yn ‘nyrsys lefel 1af eraill’, tra bod 38% yn nyrsys ardal. Mae gwaith yn y dyfodol wedi'i gynllunio i ddeall y data hwn yn well.

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i wella ansawdd y data hyn.

Cynorthwywyr Gofal Iechyd (H1) a Chynorthwywyr Nyrsio / Nyrsys Cynorthwyol (N9)

Yn ystod 2018, gwnaeth Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Chwm Taf ailbennu codau nifer o'u cyn Gynorthwywyr Gofal Iechyd (cod swydd H1) yn Gynorthwywyr Nyrsio / Nyrsys Cynorthwyol (N9), i gyd-fynd â mwyafrif y Byrddau Iechyd eraill. Er mwyn gallu cymharu mor agos â phosibl dros amser, caiff Cynorthwywyr Gofal Iechyd sy'n gweithio mewn gwasanaethau nyrsio (a ddangosir ar wahân mewn blynyddoedd blaenorol) bellach eu cynnwys o fewn y grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (heb gymhwyso a chyfanswm staff). Mae rhai byrddau iechyd sy'n dal heb ailbennu codau staff H1 i N9.

Nyrsys lefel 1 eraill o fewn eu maes gwaith fel nyrs 'gymunedol' / Nyrsys Seiciatrig Cymunedol

Yn ystod 2018, rhoddodd Betsi Cadwaladr 'Reolaeth Sefydliadol'* ar waith mewn perthynas â chodau swyddi nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, sydd wedi arwain at ailbennu codau nifer o staff nyrsio i'r maes gwaith 'cymunedol', a chynnydd yn nifer y Nyrsys Seiciatrig Cymunedol. Rhwng 2017 a 2018, gwelwn fod nifer y nyrsys lefel 1 eraill sy'n gweithio yn y gymuned ym Metsi Cadwaladr wedi dyblu, gan gyfrif am y rhan fwyaf o'r cynnydd cyffredinol ar draws Cymru. Yn yr un modd, gwelwyd nifer y Nyrsys Seiciatrig Cymunedol yn treblu ym Metsi Cadwaladr rhwng 2017 a 2018. Nid yw’r bosibl ailbennu’r codau hyn yn hanesyddol.

* Mae Rheolaeth Sefydliadol yn broses ffurfiol ar gyfer cydweddu gwybodaeth ar swyddi a ariennir mewn sefydliad â manylion y staff sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd yn y swyddi hynny

Nyrsys ail lefel eraill

Ym 1989, roedd y newidiadau i addysg nyrsys a ysgogwyd gan 'Prosiect 2000' yn nodi diwedd yr hyfforddiant Nyrsys Ymrestredig a symudwyd nifer o'r Nyrsys Ymrestredig i gategori lefel 1. Yn ystod 2019, cafodd rhyngwyneb Cofrestru Proffesiynol newydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ei gyflwyno, yn darparu rhan a lefel data cofrestru'r Cyngor e.e. Lefel 1 (Nyrs Staff) neu Lefel 2 (Nyrs Ymrestredig). Felly, dylai cod swydd Nyrs Ymrestredig fod yn N7* neu N5* gyda 'rôl swydd' Nyrs Ymrestredig. Gofynnwyd i fyrddau iechyd ddilysu eu data nyrsio Lefel 1 a Lefel 2 ac ailbennu’r codau os oedd angen, yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd. Fodd bynnag, gan fod y codau wedi’u pennu ar lefel Swyddi, cafodd nifer o staff god anghywir, gan arwain at gynnydd mawr yn nifer y 'nyrsys Lefel 2 eraill'.

Problemau hanesyddol gydag ansawdd a chodau, a phroblemau sydd wedi'u datrys

Ymwelwyr Iechyd

Yn 2022, nodwyd gostyngiad mawr yn niferoedd ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ers 31 Rhagfyr 2021. Roedd yn ymddangos bod nifer o ymwelwyr iechyd wedi’u codio fel Nyrsys lefel 1 eraill mewn gwasanaethau cymunedol. Fodd bynnag, erbyn 31 Rhagfyr 2022 roedd symudiad o staff yn ôl i godau ymwelwyr iechyd gyda niferoedd yn cyd-fynd mwy â'r blynyddoedd blaenorol.

Staff ambiwlans

Ym mis Ebrill 2019, cafodd newidiadau sylweddol eu gwneud i'r adran ambiwlans yn Llawlyfr Codau Galwedigaethau’r GIG. Roedd mwy o opsiynau bellach ar gael a chafodd rhai grwpiau staff/rolau newydd eu creu er mwyn sicrhau bod ansawdd y data yn well, a gallu cymharu'n well rhwng Ymddiriedolaethau Ambiwlansys ar draws y DU. Mae'r grŵp staff ambiwlans bellach yn cynnwys 'staff sy'n cymryd galwadau brys ac yn anfon ambiwlansys' a arferai gael yr un cod â’r grŵp staff 'gweinyddol ac ystadau'. Dylai'r nodiadau o dan y tabl ambiwlansys yn y datganiad blynyddol gael eu darllen ar y cyd â'r tabl, gan nad yw'n bosibl gwneud cymhariaeth uniongyrchol ar draws y blynyddoedd.

Ym mis Awst 2023, sylwyd nad oedd staff ambiwlans a gofnodwyd mewn rhai codau meddiannaeth newydd yn cael eu cynnwys yn y data a gyhoeddwyd. Effeithiodd hyn ar staff ambiwlans a oedd yn cael eu codio fel 'Gweithiwr Cymorth Gofal Brys - Gwasanaeth Cludiant Cleifion' o fis Rhagfyr 2020 a 'Ymarferydd arbenigol (trin galwadau)' o fis Mawrth 2022. Cafodd data Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei ddiwygio yn y cyhoeddiad ar 31 Mawrth 2023. Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y staff ambiwlans yn amrywio o 2.3% i 10.3% ym mhob un o'r chwarteri yr effeithiwyd arnynt.

Parafeddygon a technegwyr

Ym mis Hydref 2017, cyflwynodd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) raglen ailstrwythuro genedlaethol ar gyfer parafeddygon. Cafodd y parafeddygon hynny a oedd yn barod i wneud hyfforddiant ychwanegol a fyddai'n arwain at gymwyseddau ychwanegol a mwy o gyfrifoldeb, eu dyrchafu i Fand 6. Dewisodd rhai parafeddygon beidio â gwneud yr hyfforddiant ychwanegol ac aros ar Fand 5; cânt bellach eu galw'n dechnegwyr. Dyma oedd y prif reswm dros y gostyngiad yn nifer y parafeddygon a'r cynnydd yn nifer y technegwyr ar 30 Medi 2018.

Personél Ambiwlans

Ar ôl i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru werthuso graddfeydd staff yn ystod 2015-16, cafodd staff a arferai gael eu categoreiddio fel Cynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill eu hailgategoreiddio fel personél ambiwlans; yn ystod 2017 cynhaliwyd ymarfer ail-gategoreiddio arall a effeithiodd ar y niferoedd ar gyfer 2015 a 2016.

Nyrsys plant a bydwragedd

Yn 2016, gwnaeth Abertawe Bro Morgannwg ailbennu codau nifer o fydwragedd a staff eraill yn nyrsys plant; cynhaliodd Betsi Cadwaladr ymarfer golygu data yr un flwyddyn; gwnaeth Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro ailbennu codau nifer o staff yn nyrsys plant yn ystod 2019. Mae'n debygol iawn mai’r newid yn y codau hyn yw'r prif reswm dros y cynnydd a welir yn y tabl nyrsio ar gyfer y blynyddoedd hynny.

Staff cymorth nyrsio

Ym mis Awst 2023, sylwyd nad oedd staff cymorth nyrsio a gofnodwyd mewn rhai codau meddiannaeth newydd yn cael eu cynnwys yn y data a gyhoeddwyd o fis Mawrth 2020. Cafodd data ei ddiwygio yn y cyhoeddiad ar 31 Mawrth 2023. Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y staff cymorth nyrsio o lai na 0.2% ym mhob un o'r chwarteri yr effeithiwyd arnynt.

Meddygon Teulu dan hyfforddiant

O 2015 ymlaen, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru oedd y prif gyflogwr ar gyfer Practis Cyffredinol (Meddygon dan Hyfforddiant yn unig). Cyn hynny, byddai meddygon teulu dan hyfforddiant a fyddai'n gweithio mewn meddygfa fel rhan o’u cylchdro yn cael eu cyflogi gan y feddygfa ei hun, ac felly'n gadael cyflogres GIG Cymru. Ers 2015, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn eu cyflogi’n barhaus, a dangosir y ffigurau hyn yn erbyn Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (a oedd yn cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre tan fis Mehefin 2021). Yn ogystal â'r rhain, caiff meddygon teulu dan hyfforddiant, sy'n gwneud rhan o'u cylchdro yn yr ysbyty eu cofnodi o dan arbenigedd eu rôl bresennol yn erbyn Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru o 2015 ymlaen. Cyn hyn, byddai'r hyfforddeion hyn wedi cael eu cofnodi yn erbyn y Byrddau Iechyd Lleol lle roedd yr hyfforddai'n gweithio. O ganlyniad, bu gostyngiad yn y niferoedd a gofnodwyd yn erbyn y Byrddau Iechyd Lleol yn yr arbenigeddau perthnasol yn 2015.

Dangoswyd ffigurau meddygon teulu dan hyfforddiant yn erbyn Ymddiriedolaeth GIG Felindre rhwng 2015 a 2021 wrth i’r sefydliad gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru nes iddi ddod yn sefydliad annibynnol ar 1 Ebrill 2021. Trosglwyddodd staff o Ymddiriedolaeth GIG Felindre i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru rhwng Ionawr a Mai 2021. O fis Mehefin 2021 cofnodwyd holl staff Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar wahân.

Deintyddion (staff deintyddol nad ydynt yn yr ysbyty)

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru bellach wedi dod yn brif gyflogwr ar gyfer Deintyddion Sylfaen (hyfforddeion). Wrth i'r trefniant cyflogwr arweiniol sengl gael ei gyflwyno i raddau ac arbenigeddau eraill, yn debyg i’r trefniant ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant, bydd mwy o hyfforddeion (meddygol a deintyddol) yn dod dan Felindre.

Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol (cod galwedigaeth 971) wedi'u heithrio gan eu bod yn gontractwyr annibynnol ac nid yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y GIG. Ond yn ystod 2017, dilëwyd cod galwedigaeth 970 (Gwasanaeth Iechyd Cymunedol, Deintyddol) o Lawlyfr Codau Galwedigaethau’r GIG a rhoddwyd y cod arall mwyaf addas i'r staff. Mewn sawl achos, cawsant y cod 971 (Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol) ac felly ni chawsant eu cynnwys yn y data a gyhoeddwyd hyd at 2017. Gwnaeth Byrddau Iechyd Lleol eraill yr un fath yn 2018 gan arwain at ostyngiad pellach mewn deintyddion cymunedol / iechyd y cyhoedd. Ond gan eu bod mewn gwirionedd yn gwneud yr un swydd ag o'r blaen, maent wedi'u hychwanegu yn ôl at y data o 2009, ac mae'r tablau data wedi'u diwygio i adlewyrchu hyn.

Staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol

Yn 2014, yn dilyn ymgynghoriad eang, gwnaed newidiadau i gategorïau a chodau’r grŵp staff gwyddor gofal iechyd. Roedd y broses o ailbennu’r codau yn y cofnodion hyn yn effeithio ar staff nad oedd wedi'u cynnwys o fewn y staff gwyddor gofal iechyd presennol cyn hynny, oherwydd ystyriwyd eu bod yn perthyn yn well i'r grŵp staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, neu staff ystadau. Dylech nodi bod cymariaethau rhwng blynyddoedd ar gyfer y grwpiau staff hyn yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn.

Gwyddonwyr gofal iechyd

Ym mis Awst 2023, sylwyd nad oedd gwyddonwyr gofal iechyd a gofnodwyd mewn rhai codau meddiannaeth newydd yn cael eu cynnwys yn y data a gyhoeddwyd o fis Mawrth 2021. Cafodd data ei ddiwygio yn y cyhoeddiad ar 31 Mawrth 2023. Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y gwyddonwyr gofal iechyd o lai na 0.4% ym mhob un o'r chwarteri yr effeithiwyd arnynt.

Staff eraill

Bob blwyddyn, mae nifer bach o gofnodion â chod galwedigaethol meddygol dilys ond â chod graddfa sy'n annilys, neu ar goll. Cafodd y cofnodion hyn eu symud i'r categori 'Arall / staff anfeddygol' ond ar gyfer y datganiad ystadegol yn cyhoeddi niferoedd staff y GIG ar Fedi 2019 cafodd y cofnodion hyn eu dileu o 2009 ymlaen. Yn y dyfodol, caiff unrhyw gofnodion o'r fath eu dwyn i sylw'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol cyn gynted â phosibl fel bod modd gwneud yr addasiadau angenrheidiol.

Newidiadau i staff meddygol a deintyddol

Mae Swyddog Preswyl Sylfaen yn raddfa o staff meddygol sy'n dilyn y Rhaglen Sylfaen - rhaglen hyfforddiant meddygol ôl-raddedig cyffredinol, dwy flynedd o hyd, sy'n pontio rhwng yr ysgol feddygaeth a hyfforddiant arbenigol / practis cyffredinol. Ers 2005, mae wedi bod yn orfodol i bob aelod o staff meddygol newydd-gymhwyso fod yn Swyddog Preswyl Sylfaen, ac mae wedi disodli'r graddfeydd traddodiadol o Swyddog Preswyl neu Uwch-swyddog Preswyl.

Meddygon arbenigol

O ganlyniad i negodiadau rhwng Cyflogwyr y GIG a Phwyllgor Staff ac Arbenigwyr Cyswllt Cymdeithas Feddygol Prydain (y BMA), gwelwyd contract newydd ar gyfer y raddfa arbenigwr cyswllt, a chrëwyd graddfa newydd ar gyfer meddygon arbenigol ar 1 Ebrill 2008.

O'r dyddiad hwn ymlaen, cafodd graddfeydd graddfa staff, cynorthwyydd clinigol, ymarferydd ysbyty a hen gontract yr arbenigwr cyswllt eu cau i ymgeiswyr newydd. Cafodd staff cymwys presennol o fewn y graddfeydd a nodir uchod, ac uwch-swyddogion meddygol clinigol a swyddogion meddygol clinigol y cyfle i wneud cais i ailbennu eu graddfeydd i fod yn arbenigwr cyswllt neu feddyg arbenigol newydd.

Gellir gweld canlyniad y contractau newydd hyn yn 2009 ac wedi hynny, wrth i'r graddfeydd staff ostwng a graddfa'r meddyg arbenigol gynyddu. Disgwylir y bydd y niferoedd yn parhau i gynyddu yn y dyfodol.

Staff cymorth

Mae staff cymorth, o fewn y grŵp staff Cynorthwywyr Gofal Iechyd a staff cymorth eraill, yn cynnwys y rheini nad oes ganddynt gymhwyster NVQ ffurfiol na hyfforddiant Cynorthwyydd Gofal Iechyd lleol. Nodir staff domestig ac arlwyo yn ogystal â rhai staff sy'n ymdrin yn uniongyrchol â chleifion megis clercod a derbynyddion ar wardiau.

Gwybodaeth am ansawdd

Caiff ein hystadegau eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau ansawdd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Fe'u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol.

Caiff data ar nifer yr Absenoldeb oherwydd salwch y GIG eu cyhoeddi bob chwarter. Mae mân wahaniaethau yn y grwpiau staff y caiff eu cynnwys yn y data cyfrifiad staff ac absenoldeb oherwydd salwch yn hynny:

  • mae staff locwm yn cael eu tynnu o ddata'r cyfrifiad staff ar sail eu cod meddiannaeth, ond mae rhai staff locwm yn parhau yn y data absenoldeb salwch.
  • ers 2018 mae'r rhan fwyaf o gynorthwywyr gofal iechyd sy'n gweithio mewn gwasanaethau nyrsio wedi cael eu hail-gategoreiddio, gan symud o'r grŵp cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth eraill i staff cymorth nyrsio. Mae'r staff cefnogi hynny sy'n gweithio mewn gwasanaethau nyrsio nad ydynt wedi cael eu hailgodio yn parhau o fewn y grŵp staff cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth eraill o fewn y data absenoldeb salwch, ond o 2009 maent yn cael eu dangos fel staff cymorth nyrsio yn nata'r cyfrifiad staff i wneud cymariaethau dros y cyfnod hwnnw'n fwy ystyrlon.
  • ychwanegir staff eraill (h.y. taliadau cyffredinol a staff anfeddygol eraill) at y grŵp staff 'gweinyddu ac ystadau' yn y datganiad absenoldeb oherwydd salwch; maent yn cael eu dangos ar wahân yn y datganiad a data cyfrifiad staff.

Caiff data Swyddi gwag ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru eu cyhoeddi bob chwarter hefyd. Mae’r grwpiau staff a gynhwysir yno yn cael eu pennu gan y cod goddrychol o fewn ESR ac maent yn wahanol i’r rhai yn y data cyfrifiad staff ac absenoldeb oherwydd salwch.

Perthnasedd

Gellir defnyddio'r ystadegau hyn ar gyfer monitro lefelau staff fesul sefydliad y GIG yng Nghymru, a chymariaethau fesul grŵp staff.

Rydym yn annog y rheini sy’n defnyddio’r ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod sut y maent yn defnyddio'r data.

Cywirdeb

Gan fod y Cofnod Staff Electronig yn system fyw a bod rhannau o ddata'n cael eu cymryd ohono, gellir diwygio’r data a gyflwynir mewn rhifynnau o'r datganiad ystadegol yn y dyfodol. Yn benodol, gellir gwneud diwygiadau i ddata fesul grŵp staff, gan fod gwaith yn mynd rhagddo i wella codau galwedigaethau staff yn GIG Cymru.

Mae pob rhifyn o'r datganiad yn cyflwyno data sy’n gywir ar gyfer y diwrnod y cymerir data o’r system.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o broblemau wedi'u canfod gydag ansawdd y data. Mae rhai wedi cael eu datrys, tra bo eraill heb eu datrys. Ystyrir bod y data ar lefel uchel yn gadarn, ond mae dadansoddiadau manylach yn dangos yn glir bod anghysondebau yn y data rhwng byrddau iechyd a rhwng blynyddoedd. Nod yr adran ar Ansawdd data a newid codau yw rhoi disgrifiad mwy eglur o'r meysydd lle gall y cyfyngiadau hynny fodoli. Rydym yn parhau i weithio gyda'r byrddau iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG, ac AaGIC i wella'r data hyn lle canfyddir problemau ac anghysondebau.

Mae gwybodaeth am nodweddion staff hefyd yn dod o'r Cofnod Staff Electronig. Mae ystadegau am nodweddion staff yn seiliedig ar gofnodion lle cofnodwyd statws hysbys. Mae'r ganran o’r cofnodion sydd heb eu datgan ac ar goll wedi'u cynnwys sy'n nodi lefel yr ansicrwydd gyda'r ystadegau hyn. Os oes gan y staff sydd â data coll broffil nodweddiadol systemig wahanol na'r rhai sydd â statws hysbys, byddai'r ystadegau hyn yn newid.

Mae’n annhebygol y bydd data anghywir yn cael eu cyhoeddi, ond os byddai hyn yn digwydd byddai diwygiadau'n cael eu gwneud a byddai defnyddwyr yn cael eu hysbysu yn unol â’n trefniadau Diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddir ystadegau cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod amser perthnasol. Mae'r holl ddatganiadau’n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw drwy'r Calendr. At hynny, pe bai angen gohirio datganiad byddai hyn yn dilyn ein trefniadau Diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.

Mae data chwarterol ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2019 ymlaen wedi'i gyhoeddi ar StatsCymru.

Cydlyniaeth a chymaroldeb

Caiff y data staff y GIG eu casglu drwy'r un system Adnoddau Dynol/cyflogres, Cofnod Staff Electronig (ESR), sy'n cwmpasu holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru ac yn cynnwys yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru. Gall newidiadau dros amser i godau galwedigaethau’r GIG a’r codau newydd a roddir i staff effeithio ar ffigurau yn ôl grŵp staff, ond nid effeithir ar y niferoedd cyffredinol.

Ar 1 Hydref 2009, daeth y diwygiadau i'r GIG i rym, a disodlwyd y 22 o Fyrddau Iechyd Lleol comisiynu blaenorol a sefydliadau darparu Ymddiriedolaethau’r GIG gan nifer lai, mewn strwythur newydd o 7 Bwrdd Iechyd Lleol daearyddol a 3 Ymddiriedolaeth y GIG.

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018 fel Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru. Dangosir niferoedd staff AaGIC ar StatsCymru ar gyfer y chwarter ar 31 Rhagfyr 2018 ymlaen.

Symudodd y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd ar gyfer trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf ar 1 Ebrill 2019. Cadarnhawyd enwau'r byrddau iechyd mewn datganiad ysgrifenedig, gydag enw Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac enw Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae'r hen Fyrddau Iechyd Lleol a'r rhai newydd yn ymddangos ar StatsCymru, fel sy’n briodol ar gyfer y cyfnodau dan sylw.

Daeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn sefydliad annibynnol ar 1 Ebrill 2021 (cyn hynny cafodd ei gynnal gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre). Bydd staff yn pontio o Ymddiriedolaeth GIG Felindre i Cydwasanaethau GIG Cymru rhwng Ionawr a Mai 2021. O fis Mehefin 2021 cofnodwyd holl staff Cydwasanaethau GIG Cymru ar wahân ac mae niferoedd y staff ar gyfer Cydwasanaethau GIG Cymru yn cael eu dangos ar StatsCymru am y chwarter fel ar 30 Mehefin 2021 ymlaen.

Sefydlwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar 1 Ebrill 2021 hefyd. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Awdurdod Iechyd Arbennig sydd wedi disodli Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae niferoedd staff Iechyd a Gofal Digidol Cymru i'w gweld ar StatsCymru am y chwarter fel ar 30 Mehefin 2021 ymlaen.

Er y caiff ystadegau ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru a Lloegr eu tynnu o'r un system sylfaenol (y Cofnod Staff Electronig) mae gwahaniaethau yng nghwmpas y sefydliadau a gaiff eu cynnwys yn y detholiadau, a gwahaniaethau sefydliadol, megis faint sy'n cael ei gontractio allan, yn golygu nad oes modd cymharu'r ffigurau yn uniongyrchol ar y cyfan.

Mae'n bosibl y byddai modd gwneud cymariaethau ar gyfer grwpiau penodol o staff, wrth edrych ar staff cyfwerth ag amser llawn, a chyfrif aseiniadau (a elwir yn role count yn Lloegr), ond byddai angen edrych ar bob achos yn unigol. Yn dilyn ymgynghoriad gyda defnyddwyr, cyflwynwyd nifer mawr o newidiadau o fis Mawrth 2016 ymlaen yn y ffigurau a gasglwyd ar gyfer Lloegr gan NHS Digital, a fyddai'n golygu nad oedd modd gwneud cymhariaeth gystal rhwng y ffigurau ar gyfer Cymru a Lloegr. Ni chaiff y system Cofnod Staff Electronig ei defnyddio gan y GIG yn yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Hygyrchedd

Cyhoeddir yr ystadegau mewn modd hygyrch, trefnus a hynny ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9.30am ar y diwrnod cyhoeddi. Rhoddir cyhoeddusrwydd i ddatganiadau ystadegol ar Twitter ac maent ar gael i'w lawrlwytho am ddim.

Mae data manylach ar gael ar yr un pryd ar wefan StatsCymru a gellir eu trin ar-lein neu eu lawrlwytho'n daenlenni i'w defnyddio all-lein.

Defnyddir Cymraeg clir gymaint â phosibl yn ein datganiadau, ac maent yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddir holl benawdau ein tudalennau gwe yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Lledaenu datganiadau

Cyhoeddir diweddariad chwarterol gyda chrynodebau lefel uchel a chyhoeddir tablau data rhyngweithiol pellach ar StatsCymru. Cyhoeddir datganiad ystadegol manylach ar gyfer y chwarter fel ar 30 Medi bob blwyddyn.

Gwerthuso

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, a gellir gwneud hynny drwy anfon neges e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.