Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 31 Rhagfyr 2019.

Dyma’r cyhoeddiad chwarterol cyntaf o ddata staffio’r GIG i ddarparu data mwy amserol. Does dim data yn y diweddariad hwn yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19)

Siart yn dangos staff y GIG yn ôl grŵp staff ar 31 Rhagfyr 2019 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae’r siart yn dangos bod pob grŵp staff oni bai am ‘Cynorthwywyr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd’ a ‘Staff anfeddygol arall’ yn dangos cynnydd ar 31 Rhagfyr 2019.

Rhwng 31 Rhagfyr 2018 a 31 Rhagfyr 2019 (o ran niferoedd cyfwerth llawn amser)

  • Bu cynnydd o 1,881 (2.4%) yn nifer staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol i 81,541.
  • Bu cynnydd o 173 (2.6%) yn y staff meddygol a deintyddol i 6,741.
  • Bu cynnydd o 336 (1.0%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 33,350.
  • Bu cynnydd o 1,373 (3.4%) yn nifer y staff grwpiau eraill i 41,450.

Nodiadau

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim datganiad ystadegol.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn, er enghraifft mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i ddirywio yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn nata'r datganiad hwn. Mae hyn yn bennaf yn effeithio rhai o’r dadansoddiadau manylach o staff. Ceir manylion llawn yn y adroddiad ystadegol blynyddol diweddaraf.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.