Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 30 Mehefin 2020.

Dyma’r trydydd cyhoeddiad chwarterol o ddata staffio’r GIG i ddarparu data mwy amserol. Mae data yn y diweddariad hwn yn cynnwys cyfnod cyntaf y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 30 Mehefin 2020 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol - roedd y rhain yn cynnwys myfyrwyr proffesiynol iechyd a staff a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar i helpu yn ystod pandemig COVID-19.

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 30 Mehefin 2019 a 2020. Mae pob grŵp, ac eithrio 'staff anfeddygol arall', wedi cynyddu ers 30 Mehefin 2019.

Rhwng 30 Mehefin 2019 a 30 Mehefin 2020 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn)

  • Bu cynnydd o 5,429 (6.8%) yn nifer staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol i 85,458.
  • Bu cynnydd o 577 (9.0%) yn y staff meddygol a deintyddol i 7,016.
  • Bu cynnydd o 2,846 (8.6%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 35,897.
  • Bu cynnydd o 2,006 (4.9%) yn nifer y grwpiau staff eraill i 42,545. 

Nodiadau

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim datganiad ystadegol.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir manylion llawn yn y datganiad ystadegol blynyddol diweddaraf. 

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.