Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 30 Medi 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG
Rhwng 30 Medi 2018 a 30 Medi 2019 (o ran niferoedd cyfwerth llawn amser)
- Bu cynnydd o 1,990 (2.5%) yn nifer staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol i 81,044.
- Bu cynnydd o 153 (2.3%) yn y staff meddygol a deintyddol i 6,693.
- Bu cynydd(r) o 373 (1.1%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 33,301.
- Bu cynnydd o 571 (4.3%) yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol i 13,777.
- Bu cynnydd o 792 (4.4%) yn nifer y staff gweinyddol ac ystadau i 18,687.
Diwygiedig ar 02 Mawrth 2020
Nodiadau
Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn nata'r datganiad hwn. Mae hyn yn bennaf yn effeithio rhai o’r dadansoddiadau manylach o staff. Ceir manylion llawn yn y adroddiad ystadegol.
Ynghyd â'r datganiad blynyddol hwn, rydym yn cyhoeddi am y tro cyntaf data chwarterol am staff o Ragfyr 2018. Bydd y data hwn yn cael ei gyhoeddi bob chwarter yn y dyfodol i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn well gyda data mwy amserol.
Adroddiadau
Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, 30 Medi 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 692 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.