Data yn dangos staff a chyllid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer Medi 2016 i Awst 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Staff a chyllid sefydliadau addysg uwch
Mae’r pennawd hwn yn dangos manylion incwm a gwariant y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae’n seiliedig ar ystadegau a gynhyrchwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae pob cymhariaeth ariannol â blynyddoedd blaenorol yn defnyddio ffigurau sy’n cael eu hail-nodi yn y datganiadau ariannol mwyaf diweddar sydd ar gael.
Ochr yn ochr â’r data hwn rydym wedi cynhyrchu dangosfwrdd rhyngweithiol sydd ar gael o dan y tab 'Data' uchod.
Cyllid Sefydliadau Addysg Uwch
- Cyfanswm incwm sefydliadau addysg uwch Cymru oedd £1.50 biliwn, 1% (£19 miliwn) yn llai na 2015/16.
- Cyfanswm gwariant y sector oedd £1.52 biliwn, 5% (£73 miliwn) yn fwy na 2015/16.
- Gwnaeth yr incwm o ffioedd dysgu barhau i gynyddu. Bellach, mae ffioedd dysgu a chontractau addysg yn cyfrif am 56% o’r incwm (£836 miliwn).
- Gwnaeth y gostyngiad yng ngrantiau’r Cyngor Cyllido barhau am y seithfed flwyddyn yn olynol. Gwnaeth yr incwm o Grantiau Cyllido ostwng 6% (£10 miliwn).
- Grantiau ymchwil oedd 13% o incwm prifysgolion Cymru, sef cyfran debyg i’r hyn a adroddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
- Gwariodd prifysgolion Cymru £857 miliwn ar gostau staff yn 2016/17. Roedd hyn dros hanner yr holl gostau (56%).
Staff Sefydliadau Addysg Uwch
- Roedd cynnydd o 425 yn nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru yn 2016/17 i 21,095 (2%).
- Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer mwyaf o staff (6,855), mwy na dwbl nifer y staff gan y cyflogwr mwyaf nesaf Prifysgol Abertawe (3,150).
- Prifysgol Glyndŵr oedd y brifysgol leiaf o ran nifer y staff. Fe gyflogodd 515 yn unig yn 2016/17.
- Roedd gan ychydig o dan hanner yr holl aelodau staff (49%) gontractau academaidd.
- Roedd ychydig o dan ddau draean o’r aelodau staff yn gweithio’n amser-llawn, yn rhai â chontractau academaidd ac yn rhai heb gontractau academaidd.
- O’r rheini nad oedd â chontractau academaidd, roedd gan 3,735 alwedigaethau proffesiynol neu dechnegol. Roedd gan 4,015 alwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol ac roedd gan 1,060 ‘alwedigaethau elfennol’.
- Menywod oedd yn llenwi 55% o’r holl swyddi. Fodd bynnag, dim ond 47% ohonynt oedd yn cyflawni rolau academaidd. Roedd dau draean o’r aelodau staff rhan-amser yn fenywod.
- Dywedodd 1 o bob 10 aelod o staff â chontract academaidd y gallent ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond ychydig dros hanner ohonynt yn unig oedd yn gwneud hyn mewn gwirionedd.
Adroddiadau
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.