Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan yn dweud wrth Aelodau'r Cynulliad heddiw bod smacio yn dal yn gyfystyr â tharo plentyn, ni waeth sut rydym ni'n ei ddiffinio neu'n ceisio ei gyfiawnhau - a'n bod am i hynny ddod i ben. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yn cyrraedd carreg filltir arall ddydd Mawrth, pan fydd yn destun dadl yn y Senedd am y tro cyntaf ers ei gyflwyno ym mis Mawrth.

Diben y Bil yw cynorthwyo i amddiffyn hawliau plant; mae'n adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Os caiff y Bil ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan ddod yn gyfraith, ni fydd rhieni nac oedolion eraill sy'n gweithredu fel rhieni yn cael cosbi plant yn gorfforol mwyach. 

Y ddadl hon yw rhan olaf proses cyfnod un. Yn rhan o'r broses honno, clywyd tystiolaeth gan amrywiaeth o sefydliadau a chynrychiolwyr, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, gwasanaethau plant a gwasanaethau iechyd ac maent i gyd wedi cefnogi'r Bil.

Mae hefyd wedi cael ei gefnogi gan nifer o elusennau plant gan gynnwys y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Barnardo's Cymru, Achub y Plant, Plant yng Nghymru a Gweithredu dros Blant. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi croesawu'r Bil.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Nid oes unrhyw reswm fyth i daro plentyn, ac mae eraill wedi adleisio hynny wrth drafod y Bil. 

Yn ystod y drafodaeth, mae pobl wedi cyfiawnhau smacio oherwydd iddyn nhw gael eu taro pan oedden nhw'n blentyn. Ond nid yw'r hyn oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn y gorffennol yn dderbyniol mwyach. Mae ein plant yn haeddu cael eu trin â'r un parch ac urddas ag oedolion. Rydym ni fel llywodraeth am wneud yn siŵr bod plant yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn rhag cosb gorfforol llawn gymaint ag oedolion.

Dyma'r adeg i Gymru ymuno â bron i 55 o wledydd eraill ledled y byd sydd wedi cymryd camau i roi terfyn ar gosb gorfforol i blant. Dyma'r adeg i'w gwneud yn gwbl eglur i rieni, i weithwyr proffesiynol ac i blant nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru.