Heddiw, bydd Tour of Britain OVO Energy 2018 yn dechrau yn Ne Cymru am y tro cyntaf wrth i gymal agoriadol y ras gael ei gynnal yn Sir Gaerfyrddin a Chasnewydd.
Dyma’r tro cyntaf i'r ras ymweld â Sir Gaerfyrddin ac mae disgwyl i'r sir groesawu'r cystadleuwyr cryfaf erioed yn hanes y ras, gyda phencampwyr presennol y Tour de France a'r Giro d'Italia, Geraint Thomas a Chris Froome, yn cystadlu i Dîm Sky.
2004 oedd y tro diwethaf i'r Tour of Britain ymweld â dinas Casnewydd, ond fe wnaeth cymal olaf y ras deithio drwy'r ddinas ar y ffordd i'r llinell derfyn yng Nghaerdydd yn 2017.
Yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, fydd yn dechrau cymal cyntaf ras feicio broffesiynol fwyaf Prydain. Wrth siarad cyn y ras, dywedodd yr Athro Drakeford:
“Bydd yn bleser i mi agor cymal cyntaf y ras eiconig hon. Mae Parc Gwledig Pen-bre yn lleoliad rhagorol ar gyfer y cychwyn mawreddog. Mae'n atyniad poblogaidd iawn i ymwelwyr ac yn ddiweddar mae wedi buddsoddi mewn cyfleusterau beicio, sy'n cynnwys y gylchffordd gaeëdig genedlaethol gyntaf yn Ne Cymru."
"Mae'r Tour of Britain wedi dod yn un o ddigwyddiadau allweddol calendr chwaraeon Cymru ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r digwyddiad hwn unwaith eto eleni.
"Mae'r cyhoedd bob amser wedi rhoi croeso cynnes Cymreig i'r beicwyr ac rwy'n siŵr y bydd pobl o bob rhan o Dde Cymru yn dod i gefnogi'r beicwyr wrth iddyn nhw deithio o Sir Gaerfyrddin i Gasnewydd ar ddiwrnod cyntaf y ras, yn enwedig gan fod Geraint Thomas yn un o'r beicwyr hynny."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole:
"Rydyn ni’n falch iawn o gynnal cymal agoriadol y Tour of Britain yn Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf. Rydyn ni wedi bod yn agored iawn am ein huchelgais i ddod yn Ganolbwynt Beicio Cymru, ac mae'r digwyddiad nodedig hwn yn cyd-fynd â buddsoddiad enfawr yn y seilwaith beicio yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys traciau a chylchffyrdd oddi ar y ffordd, llwybrau teithio llesol a llwybrau beicio.
"Mae'r digwyddiad hwn yn coroni enw da Sir Gaerfyrddin nid yn unig fel man sy'n denu mwy a mwy o ymwelwyr, ond hefyd fel lleoliad o'r radd flaenaf ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr.
"Rydyn ni wedi ein llorio gan y gefnogaeth enfawr dros yr wythnosau diwethaf, ac rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'n cymunedau sydd wedi cydweithio i roi croeso cynnes i'r beicwyr a'r ymwelwyr."
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu'r ras i Gasnewydd ac i roi cymeradwyaeth enfawr i'r beicwyr wrth iddyn nhw groesi llinell derfyn y cymal cyntaf ar ddiwrnod un.
"Mae gan Gasnewydd dirwedd amrywiol sy'n berffaith ar gyfer digwyddiadau fel hyn - o lwybrau trefol, gwastad i riwiau heriol drwy gefn gwlad prydferth. Rwy'n siŵr y bydd y beicwyr, y cefnogwyr a'r rheini sy'n gwylio yn mwynhau'r cymal a'u hamser yn ein dinas."
Dywedodd Cyfarwyddwr y Ras, Mick Bennett:
“Yn dilyn buddugoliaeth arbennig Geraint Thomas yn y Tour de France dros yr haf, mae’n addas iawn i ni allu ei groesawu ef a phencampwr presennol y Giro d’Italia, Chris Froome, i gymal agoriadol Tour of Britain OVO Energy eleni yng Nghymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymweld â Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf. Mi fydd yn achlysur arbennig iawn i bawb sy’n rhan o’r gweithgareddau sydd wedi’u trefnu ar hyd y daith i ddathlu’r achlysur.
“Mae’n addas iawn bod y cymal agoriadol yn dod i ben yng Nghasnewydd eleni, sef cartref Beicio Cymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddiwedd cyffrous ar Usk Way yn y ddinas.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru, Anne Adams-King:
"Mae Beicio Cymru yn falch bod Tour of Britain OVO Energy 2018 yn dechrau yng Nghymru. Mae'n gyfle i arddangos ein cefn gwlad prydferth a chanol Dinas Casnewydd.
"Mae'n wych i bobl weld pedwar beiciwr o Gymru yn y prif grŵp ochr yn ochr â rhai o'r beicwyr proffesiynol gorau. Dyma ddechrau cyffrous i'r ras a fydd yn ysbrydoli cenhedlaeth o bobl ifanc i brofi beicio."
Tour of Britain OVO Energy yw’r prif ddigwyddiad beicio ar y ffordd a gynhelir gan British Cycling. Mae’n rhoi cyfle i'r cefnogwyr weld timau a beicwyr gorau'r byd yn cystadlu ar garreg y drws, ac mae'n cael ei gynnal rhwng dydd Sul 2 Medi a dydd Sul 9 Medi 2018.