Neidio i'r prif gynnwy

Mae datblygiad ar y gweill a fydd yn ganolfan ar gyfer ymwelwyr â'r Gŵyr o'r Pasg 2017 ymlaen.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr estyniad dau lawr newydd i ochr y siop goffi yn cynnwys bistro â thema forol ar gyfer 55 o bobl ar y llawr uchaf. Bydd y bwyty ar agor gyda'r hwyr a bydd gwesteion yn gallu mwynhau golygfeydd o Fôr Hafren yn ogystal â bwyta’r cynhyrchion lleol gorau. Bydd hefyd estyniad i'r siop goffi i greu ardal ymlacio gyda chadeiriau esmwyth a soffas.


Mae hefyd gynlluniau i wella profiad yr ymwelydd drwy ddarparu ardal eistedd yn yr awyr agored y bydd modd ei defnyddio fel dosbarth. Bydd hyn yn creu man cyfarfod lle y bydd panel yn arddangos mapiau, gwybodaeth ac awgrymiadau. 


Mae cwmni adeiladu lleol Edger Davies & Sons a J.Jenkins Project Management wedi dechrau'r gwaith ac mae disgwyl i gam un gael ei gwblhau erbyn y Pasg 2017 a'r gweddill erbyn mis Mehefin 2017. 

Ers sefydlu'r busnes ym 1996 am eu bod wrth ei bodd â'r ardal leol, Jodie a Jamie Francis sy’n rhedeg Siop Goffi’r Tri Chlogwyn a Siop Pennard.  

Wrth drafod y datblygiadau newydd, dywedodd Jodi Francis: 

"Ar ôl gweithio gyda'n cymuned a'n partneriaid twristiaeth am 20 mlynedd, mae'n wych gweld y prosiect hwn ar waith gan greu rhywbeth newydd ac arloesol yn y Gŵyr am y tro cyntaf erioed".

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

 

"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu helpu i ehangu'r busnes a fydd yn darparu cyfleuster o ansawdd a chanddo ymdeimlad cryf o le i ymwelwyr â'r ardal.  Mae cyfuno'r busnes sy'n bodoli eisoes â mannau gwybodaeth a chyfleusterau cyhoeddus yn ffordd wych o rannu gwybodaeth am yr ardal. Bydd hyn yn golygu y bydd Siop Goffi’r Tri Chlogwyn yn ganolfan brysur ac yn lle y bydd yn rhaid ymweld ag ef." 

Bydd y Siop Goffi yn parhau ar agor drwy gydol y gwaith ailddatblygu a bydd yn cynnal digwyddiadau arbennig dros yr Ŵyl a fydd yn cynnwys y Gwasanaeth Carolau blynyddol gyda Byddin yr Iachawdwriaeth a Gorymdaith Llusernau’r Fari Lwyd. Bydd hefyd yn cynnal digwyddiadau eraill lle y bydd modd i'r gymuned ddod at ei gilydd i fwynhau paned a chacen Nadolig.  

Fel y dywedant, "O fore gwyn tan nos rydym yn meddwl am fwyd".