Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mercher 22 Gorffennaf) mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cadarnhau bod cytundeb wedi cael ei daro gyda chwmni Vertex Pharmaceuticals i sicrhau mynediad at y feddyginiaeth Kaftrio® yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y feddyginiaeth ar gael i gleifion cymwys sydd â Ffeibrosis Systig o’r adeg y bydd yn cael ei hawdurdodi ar gyfer ei marchnata yn Ewrop yn nes ymlaen yn yr haf. Mae hyn yn dilyn cytundeb y llynedd a oedd yn golygu bod meddyginiaethau eraill, Vertex,  Kalydeco®, Orkambi® a Symkevi®, ar gael i gleifion Ffeibrosis Systig yng Nghymru.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

Rydw i’n falch o gadarnhau y bydd Kaftrio® ar gael i gleifion cymwys yng Nghymru. Bydd llawer o deuluoedd yn croesawu’r newyddion – rydw i’n siŵr o hynny. Rydw i wedi bod yn gwbl glir y dylai meddyginiaeth newydd ac arloesol fod ar gael yn gyflym i gleifion yng Nghymru, ac y dylai fod cysondeb o safbwynt hyn. Ond dim ond pan fo cost y meddyginiaethau hynny yn adlewyrchiad teg o’u manteision y dylai hyn ddigwydd.  

Mae’r cytundeb a gafodd ei daro gyda Vertex yn golygu y gall cleifion ddechrau elwa ar driniaeth therapi triphlyg ar unwaith pan fydd ar gael yn y Deyrnas Unedig o fewn wythnosau.