Neidio i'r prif gynnwy

Diben y cyhoeddiad hwn

“[nid] yw’r system bresennol yn diwallu anghenion pobl Cymru”

Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd

Mae system gyfiawnder deg ac effeithiol yn hanfodol i unrhyw wlad. Hebddi, gellir anwybyddu cyfreithiau, ac ni fyddai neb yn ddiogel. Mae’r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â chreu’r system gyfiawnder gryfaf posibl i Gymru. Nid yw’n dechrau drwy ofyn pwy ddylai redeg y system gyfiawnder, ond yn hytrach pa ddiwygiadau y mae angen eu gwneud er mwyn inni allu cyflawni’r canlyniadau gorau posibl.

Mae ein dull

Mae ein dull o ymdrin â chyfiawnder yng Nghymru wedi’i seilio ar weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus.

Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid mewn meysydd datganoledig a phartneriaid mewn meysydd nad ydynt wedi’u datganoli fel rhan o ddull system gyfan, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer cyfiawnder. Mae meysydd datganoledig fel tai, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl yn hanfodol i alluogi dinasyddion Cymru i fyw bywydau iach, di-drosedd. Rydym yn chwarae rhan weithredol yn y system bresennol, gan weithio gyda phartneriaid i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl. Dangosir hyn yn arbennig gan waith ar y Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Chyfiawnder Menywod, yn ogystal â’n gwaith ar y cyd ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Y system gyfiawnder

Er hyn, rydym yn gwybod y gallai ein system gyfiawnder fod gymaint yn well.

Mae ein partneriaethau llwyddiannus yn gweithredu yng nghyd-destun ehangach system sy’n ddigyswllt, lle mae gwasanaethau a ddylai fod ynghlwm wrth ei gilydd yn hytrach wedi’u gwasgaru ar draws cyrff datganoledig a chyrff nad ydynt wedi’u datganoli. Felly, mae effeithiolrwydd y trefniadau partneriaeth hyn a’u gallu i wneud gwelliannau yn sylfaenol gyfyngedig – gan effeithio ar ein gallu cyfunol i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru.

Dywedodd cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, “nad yw’r system bresennol yn diwallu anghenion pobl Cymru”. Mae’r geiriau hyn wedi’u cynnwys yn adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru, a gadeiriwyd ganddo, yn dilyn yr archwiliad mwyaf erioed o gyflwr y system gyfiawnder yng Nghymru, yn seiliedig ar dystiolaeth ysgrifenedig gan fwy na 200 o unigolion, sefydliadau a chyrff, a thros 150 o sesiynau tystiolaeth lafar ar draws holl sbectrwm y system gyfiawnder.

Roedd casgliadau’r Comisiwn yn glir. Er mwyn diwygio’r system gyfiawnder o ddifrif, mae angen i bolisïau a phenderfyniadau ynghylch cyfiawnder gael eu gwneud a’u cyflawni yng Nghymru, fel y gallant gael eu cysoni â’r polisïau a’r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, cyfiawnder cymdeithasol ac addysg sy’n unigryw ac yn datblygu yng Nghymru, a chorff cynyddol cyfraith Cymru.

Dylid datblygu polisi cyfiawnder a dyrannu cyllid er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru, a darparu mwy o fuddion iddynt.

Nid oes sail resymegol dros drin Cymru yn wahanol i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gallwn weithio – ac rydym yn gweithio – i sicrhau’r gweithio mewn partneriaeth mwyaf effeithiol y gallwn ni o fewn cyfyngiadau’r setliad datganoli presennol, ac rydym yn aml yn gweld canlyniadau cadarnhaol i bobl Cymru. Serch hynny, dim ond drwy gysylltu’r system gyfiawnder â gweddill y llywodraeth y gallwn ni wir ganfod ffyrdd effeithiol o leihau troseddu – neu yn wir leihau nifer y teuluoedd sy’n chwalu, neu’r holl faterion eraill sy’n rhoi pwysau aruthrol ar ein system gyfiawnder.

Cynllunio ar gyfer y tymor hwy

COVID-19

Dangosodd y profiad yn ystod pandemig Covid-19 gryfderau a gwendidau’r trefniadau presennol. Roedd y system gyfiawnder yn gallu ymdopi â gwahaniaethau sylweddol mewn cyfraith trosedd rhwng Cymru a Lloegr. Cafodd y gwaith cydweithredol a wnaed yng Nghymru i sicrhau bod y llysoedd yn weithredol ac yn ddiogel o ran Covid ei amlygu dro ar ôl tro fel rhywbeth arbennig. Ond sail y llwyddiant oedd camau gweithredu gwirfoddol a chysylltiadau yn hytrach na bod y system gywir ar waith, tra oedd gweithio gydag asiantaethau yn Lloegr yn ychwanegu cymhlethdod diangen at y broses benderfynu.

Ar sail canfyddiadau’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas) a’r profiad yn ystod pandemig Covid-19 y cafodd yr ymrwymiad i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona ei gynnwys yn ein Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021-26. Roedd y cynnig hwnnw i’w weld mewn nifer o faniffestos pleidiau, ac felly cafodd ei gymeradwyo gan fwyafrif helaeth o bleidleiswyr Cymru. Credwn fod yr achos dros ddatganoli cyfiawnder yng Nghymru bellach wedi’i brofi.

Credwn hefyd ei bod yn anochel y bydd yn digwydd – felly mae gennym ddyletswydd i baratoi ar ei gyfer. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr – yn academyddion ac yn ymarferwyr – i adeiladu ar argymhellion Comisiwn Thomas ac i ddatblygu a nodi sut y gallem sicrhau canlyniadau gwell i Gymru pe bai pwerau, a’r lefelau priodol o gyllid, yn cael eu trosglwyddo i sefydliadau democrataidd Cymru.

Mae’n bwysig bod ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol cyfiawnder yng Nghymru yn cael ei llunio ar y cyd ag arbenigwyr a’r rhai sydd â phrofiadau bywyd o gysylltiad â’r system gyfiawnder; yn enwedig y rhai a glywir leiaf aml. Felly nid yw’r cyhoeddiad hwn yn ceisio cyfleu’r weledigaeth honno nawr. Yn hytrach, dyma’r cam diweddaraf mewn sgwrs.

I helpu i gynnal datblygiad y sgwrs hon, rydym wedi mynd ati i nodi rhai o elfennau craidd ein dull o ddylunio system gyfiawnder ddatganoledig – yn y crynodeb hwn ac yn y ddogfen.

Croesawn unrhyw sylwadau ysgrifenedig ar yr elfennau craidd hyn o system gyfiawnder ddatganoledig – gan gynnwys a oes elfennau ychwanegol pwysig y dylid eu cynnwys, a beth allai rhai o’u goblygiadau ymarferol fod. Ond ein prif fwriad yw ysgogi trafodaeth mewn amrywiaeth o wahanol fforymau am oblygiadau ymarferol pob un o’r elfennau a nodir, er mwyn cynyddu ein parodrwydd.

Elfennau craidd system gyfiawnder ddatganoledig

Wrth oruchwylio system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru, byddem yn:

  • Cynnal Rheolaeth y Gyfraith bob amser, gan sicrhau nad oes neb uwchlaw’r gyfraith.
  • Gwarantu mynediad at gyfiawnder a diogelu hawliau unigol dinasyddion, gan gynnwys sicrhau iawn ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr troseddau.
  • Gweithio i wella profiad dioddefwyr, tystion a goroeswyr pan fyddant yn dod i gysylltiad â’r system gyfiawnder, gan gynnwys drwy adeiladu ar y profiad o ddarparu safleoedd tystiolaeth o bell.
  • Cefnogi cymunedau mwy diogel a sicrhau bod mynediad at gyfiawnder ar gael i bawb, gan gynnwys drwy roi llais amlwg o fewn y system gyfiawnder i bobl hŷn ac i bobl anabl.
  • Gweithio gyda’r bobl ddewr, ymroddedig a gweithgar sy’n gweithio yn y system gyfiawnder, a’u cefnogi.
  • Mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau wrth ddeddfu a llunio polisïau, a mynd ati i ehangu’r gwaith o ymgorffori safonau hawliau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol mewn cyfraith ddomestig.
  • Rhoi’r flaenoriaeth uchaf i fynd i’r afael â’r argyfwng cenedlaethol o drais gan ddynion yn erbyn menywod, a’r lefelau syfrdanol o isel o euogfarnau am dreisio ac ymosodiadau rhywiol.
  • Parhau i weithio dros Gymru sy’n wrthhiliol ac ymdrechu i ddileu’r profiadau a’r canlyniadau anghyfartal rhwng pobl o wahanol gefndiroedd hiliol ac ethnig yn y system cyfiawnder troseddol.
  • Mabwysiadu dull rhesymegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth lunio polisïau, ar y cyd ag arbenigwyr, ymarferwyr a’r rhai yr effeithir arnynt gan unrhyw newidiadau arfaethedig.
  • Canolbwyntio ar atal, a hynny’n seiliedig ar ein dealltwriaeth mai dim ond drwy sicrhau cyfiawnder cymdeithasol y gallwn fynd i’r afael o ddifrif â’r rhesymau sylfaenol dros y pwysau sydd ar y system gyfiawnder.
  • Gweithio i leihau maint poblogaeth carchardai drwy leihau’n sylweddol y defnydd o ddedfrydau byr, y dangoswyd eu bod yn wrthgynhyrchiol, a mynd ar drywydd dewisiadau eraill yn lle carchar pan fo’n briodol, megis rhaglenni i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a chymorth gyda thriniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
  • Sicrhau bod yr holl arferion ar draws y system yn ystyriol o drawma, yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o effaith bosibl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar ddyfodol unigolyn.
  • Diogelu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y system gyfiawnder, gan weithio i sicrhau y gellir cynnal yr holl weithgarwch o fewn y system gyfiawnder yn Gymraeg.
  • Hyrwyddo Cymru fel lle i ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol fyw a gweithio ynddo, a gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cyfraith Cymru i gefnogi cynaliadwyedd proffesiynau cyfreithiol Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol.
  • Parhau i gyfranogi mewn trefniadau Cymru a Lloegr, Prydain gyfan, y DU gyfan, trefniadau Ewropeaidd a threfniadau rhyngwladol, pan fo hynny er budd pawb.

Gwneud newid nawr

Rydym wedi dadlau’n gyson dros yr achos am newid wrth Lywodraeth bresennol y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Ar adeg ysgrifennu, fodd bynnag, er gwaethaf casgliadau digamsyniol Comisiwn Thomas, ac er gwaethaf mandad clir gan bobl Cymru, mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn erbyn unrhyw newid sylweddol.

Mae’r ddogfen hon felly’n nodi sut rydym wedi bod yn ceisio ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y diwygiadau sydd eu hangen i wella’r ffordd y caiff cyfiawnder ei ddarparu yng Nghymru yn y dyfodol. Ond, yn hollbwysig, mae hefyd yn nodi’r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru nawr i gefnogi’r ffordd orau posibl o sicrhau cyfiawnder o dan y trefniadau presennol, a beth arall y bwriadwn ei wneud yn y tymor byr. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn deall na fydd dadlau’r achos dros ddatganoli yn cael ei wneud drwy siarad amdano’n unig. Yn hytrach, mae angen inni fynd ar drywydd yr achos drwy ddangos ein gwerthoedd drwy’r camau yr ydym yn eu cymryd.

Mae’r cyhoeddiad hwn felly’n dangos sut rydym yn ymateb i’r argymhellion hynny gan Gomisiwn Thomas sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac yn amlinellu bwriad ar gyfer system ddatganoledig yn y dyfodol.

Yn benodol, o fewn y meysydd y mae gennym ni gyfrifoldeb ynddynt, rydym yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • rheoli’r rhyngwyneb rhwng gwasanaethau datganoledig a gwasanaethau nad ydynt wedi’u datganoli, a datblygu gwaith ar y cyd ar draws llywodraethau pan fo cyfle am gytundeb
  • mynd i’r afael â’r argyfwng o ran mynediad at gyfiawnder, gan ddefnyddio unrhyw ysgogiadau sydd gennym i wneud hynny
  • cefnogi sector cyfreithiol Cymru fel elfen allweddol o ddarparu mynediad at gyfiawnder, yn ogystal â chyfrannwr sylweddol at economi Cymru
  • sicrhau bod yr elfennau datganoledig o’r system gyfiawnder yn batrwm ar gyfer yr hyn y gall Cymru ei gyflawni.

Rhan fawr o’r uchelgais olaf hwn yw ein hymateb i waith pwysig Comisiwn y Gyfraith i greu gwasanaeth tribiwnlysoedd unedig, annibynnol i Gymru.

Gwasanaeth tribiwnlys i Gymru

Y gwasanaeth tribiwnlysoedd newydd hwnnw fydd un o sylfeini cyntaf system gyfiawnder yn y dyfodol sy’n cael ei rhedeg o Gymru.

Mae’r cyhoeddiad hefyd yn nodi’r meysydd pwysig eraill hynny lle mae ein dull cydweithredol yng Nghymru eisoes yn sicrhau newid cadarnhaol – megis ym maes cyfiawnder ieuenctid, cyswllt yr heddlu a mynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal. O bell ffordd, nid Llywodraeth Cymru yn unig sy’n gyfrifol am y gwaith partneriaeth cryf ym mhob un o’r meysydd hynny; ond yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw bod asiantaethau a phobl wedi gallu dod at ei gilydd yn wirfoddol, gan weithio o fewn cyfyngiadau’r system bresennol i sicrhau canlyniadau trawiadol.

Yn bwysicaf oll efallai, mae’r cyhoeddiad hwn yn ceisio nodi nad oes modd cyflawni’r amcan o wella’r system gyfiawnder draddodiadol heb ddarparu cyfiawnder cymdeithasol. Nid oes ffordd gynaliadwy arall o leihau’r pwysau ar y system gyfiawnder. Mae sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yn golygu mynd i’r afael â heriau mwyaf cymdeithas, gan gynnwys tlodi, anghydraddoldeb rhwng y cenedlaethau ac adeiladu cymunedau cydlynol a goddefgar. Mae’n golygu mynd i’r afael â chasineb, casineb at fenywod a gwahaniaethu, nid yn unig pan fyddant yn golygu troseddu neu achosion eraill o dorri’r gyfraith, ond drwy addysg, esboniadau ac adeiladu cymdeithas lle gall pawb ffynnu waeth beth fo’u cefndir.

Yn benodol, mae cyfiawnder cymdeithasol yn golygu canolbwyntio ar flynyddoedd mwyaf ffurfiannol bywydau pobl, sef y blynyddoedd cynnar, drwy ymyrraeth gynnar; mae’n golygu cymryd camau i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau cymdeithasol a strwythurol a all arwain at adfyd a gwahaniaethu; ac mae’n golygu ymateb yn gyflym, yn gynhwysfawr ac yn dosturiol lle bynnag y bo modd i drawma plentyndod a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Felly, er y byddwn yn parhau i ddadlau’r achos dros newid radical, byddwn hefyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o’r system gyfiawnder sy’n cael ei gorweithio, ei thanariannu a’i llethu, ac i leihau’r pwysau arni drwy gyflawni ein cenhadaeth i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol.

Ar ddiwedd y ddogfen hon, fe welwch grynodeb o’r holl waith sydd ynddi. Wrth bennu’r rhaglen waith hon, gobeithiwn unwaith eto ysgogi sgwrs ar beth arall y gellir ei wneud.

Fodd bynnag, rydym hefyd yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi syniad o faint sy’n cael ei wneud eisoes, a sut mae’r cyfan yn plethu i’w gilydd – wedi’i seilio ar y gwerthoedd Cymreig penodol hynny, sef cydweithio, ysbryd cymunedol a’r awydd i adeiladu cymdeithas gyfiawn a theg.

Ein Rhaglen Waith: Yr hyn rydym wedi’i wneud a’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud

Yn yr adran hon:

Atal ac ymyrryd yn gynnar

Noder: nid yw’r holl weithgareddau o dan y pennawd hwn yn rhan o’n rhaglen waith ar gyfiawnder, ond maent yn enghreifftiau o weithgarwch sy’n cyfrannu at sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, lleihau lefelau troseddu a lleihau’r galw ar y system gyfiawnder.

Yr hyn rydym wedi’i wneud

  • Pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Cyflwyno’r ddyletswydd economaiddgymdeithasol. Hyrwyddo dull Plentyn yn Gyntaf.
  • Datblygu’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i gefnogi Gweinidogion wrth iddynt roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
  • Sefydlu Swydd Comisiynydd Plant Cymru.
  • Sefydlu rhaglenni Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.
  • Cefnogi sefydlu Canolfan Gymorth i Gymru ar gyfer pobl sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).
  • Cefnogi’r gwaith o fabwysiadu Rheolaeth Achosion Uwch ar gyfer pobl ifanc.
  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd.
  • Gwahardd cosbi plant yn gorfforol drwy ddiddymu amddiffyniad cosb resymol.
  • Datblygu fframwaith ar ymgorffori ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol.
  • Dargyfeirio £2 miliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion a’r gymuned.
  • Buddsoddi tua £2 miliwn y flwyddyn yn Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Parhau i ariannu’r Ganolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) tan o leiaf 2025.
  • Datblygu Cynllun Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).
  • Cefnogi gwaith ar fframwaith ymarfer newydd sy’n ystyriol o drawma.
  • Ystyried sut y gellid cynnwys plant sy’n gadael y ddalfa yn y cynllun peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer y Rhai sy’n Gadael Gofal.
  • Gweithio gyda’r Uned Atal Trais ar brosiect cysylltu data i ddeall cysylltiadau rhwng ffactorau risg addysgol a gweithgarwch troseddol.
  • Datblygu fframwaith atal ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r system gyfiawnder.
  • Gweithio gyda phartneriaid ar y camau nesaf ar gyfer y rhaglen Fraenaru i Fenywod ac ymwreiddio ymhellach weithgarwch atal a dargyfeirio yng Nghymru.

Cydraddoldeb a chyfiawnder

Yr hyn rydym wedi’i wneud

  • Pasio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol 2015. Ymgynghori ar Strategaeth Genedlaethol i atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr.
  • Ariannu 13 o gyfleusterau gwrandawiadau llys o bell ledled Cymru ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Sefydlu Straen Trawmatig Cymru. Sefydlu tair Uned Dystiolaeth i gasglu a monitro data Cymru ar gydraddoldeb, gwahaniaethau hiliol ac anghyfartaleddau anabledd.
  • Datblygu ac ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol , gan gynnwys cyfiawnder troseddol.
  • Rhedeg Bwrdd Casineb a Thensiwn Cymunedol Cymru.
  • Ariannu prosiectau megis y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol a Chanolfan Cymorth Casineb Cymru.
  • Ymgynghori ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ drafft.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a’r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod yng nghyfraith Cymru.
  • Ystyried yr achos dros Fil Hawliau Dynol i Gymru.
  • Bwrw ymlaen ag argymhellion ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe i Gryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  • Cyhoeddi a hyrwyddo camau gweithredu sy’n ymwneud â’r system gyfiawnder o fewn y strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol derfynol y cytunwyd arni a sefydlu’r glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
  • Cyhoeddi a hyrwyddo camau gweithredu sy’n ymwneud â’r system gyfiawnder o fewn y Cynllun Gweithredu LHDTC+ terfynol y cytunwyd arno.
  • Cyhoeddi a hyrwyddo camau gweithredu sy’n ymwneud â’r system gyfiawnder o fewn Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol, a dwyn y system cyfiawnder troseddol i gyfrif am ei Chynllun Gwrth-hiliaeth ei hun.
  • Ehangu’r defnydd o gyfleusterau gwrandawiadau llys o bell ar gyfer tystion sy’n agored i niwed mewn achosion teuluol ac achosion sifil eraill.
  • Ystyried yr achos dros ganiatáu i reithgorau mewn treialon troseddol drafod yn Gymraeg.

Cyfiawnder teuluol

Yr hyn rydym wedi’i wneud

  • Creu a rhedeg y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol i fonitro perfformiad a gweithrediad y system cyfiawnder teuluol yng Nghymru.
  • Monitro awdurdodau lleol yn erbyn Cynlluniau Disgwyliadau Lleihau.
  • Ariannu gwasanaethau “Myfyrio” gyda’r nod o geisio peidio ag anfon plant a menywod i’r system gofal a chyfiawnder.
  • Darparu mynediad am ddim i gyrsiau digidol a gynlluniwyd i atal neu reoli achosion ble mae rhieni’n gwahanu.
  • Sefydlu cynllun peilot Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Edrych ar ddiwygiadau radical i’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal, a dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal yn ystod tymor nesaf y Senedd.
  • Parhau i weithredu Cynllun Strategol y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol.
  • Monitro a gwerthuso cyrsiau digidol ar rieni’n gwahanu.
  • Cymryd rhan yn y Gweithgor Cyfraith Breifat a sefydlwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol, ac ym mhroses werthuso prosiect braenaru’r Gogledd.
  • Gwerthuso cynllun peilot y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol ac ystyried cyflwyno’r cynllun yn ehangach.

Plismona a diogelwch cymunedol yng Nghymru

Yr hyn rydym wedi’i wneud

  • Gweithio gyda phedwar heddlu Cymru i sicrhau bod rheoliadau Covid-19 yn cael eu gorfodi’n llwyddiannus.
  • Buddsoddi dros £22 miliwn y flwyddyn i ariannu 600 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru.
  • Darparu cyllid i sefydlu Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
  • Cydweithio â heddluoedd yng Nghymru i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
  • Llunio Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
  • Mynd ar drywydd y darparu cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer prentisiaethau’r heddlu.
  • Sefydlu Gan Bwyll / Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru i gefnogi ardaloedd peilot 20mya a pharthau allyriadau isel 50mya.
  • Gweithio gyda heddluoedd ar strategaeth atal a lleihau hunanladdiadau.
  • Creu swydd Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru Gyfan

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Mynd ar drywydd datganoli plismona mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU.
  • Ariannu cynllun cymorth rhianta y tu allan i’r llys i rieni sy’n defnyddio cosb gorfforol.
  • Ailgomisiynu Canolfan Cymorth Casineb Cymru am 3 blynedd arall.

Cyfiawnder troseddol: swyddogaethau datganoledig

Yr hyn rydym wedi’i wneud

  • Cytuno ar y cyd ar Gytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai.
  • Cyhoeddi’r Fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rheini y mae risg y byddant yn troseddu yng Nghymru, a ddatblygwyd ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru.
  • Cytuno ar Brotocol Cymru Gyfan i leihau troseddoli plant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal.
  • Datblygu manyleb gwasanaeth ddiwygiedig ar gyfer y Gwasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig ar gyfer pobl ifanc yn y system gyfiawnder.
  • Ariannu Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol ymhlith Pobl Ifanc sydd mewn Perygl o Droseddu er mwyn darparu cymorth ataliol a dargyfeiriol i blant o fewn y system cyfiawnder ieuenctid neu sydd mewn perygl o fynd i’r system.
  • Cynllunio a gweithredu prosiect ‘Cefnogi Pontio Personél Milwrol’ (“SToMP”) i gefnogi cyn-filwyr sydd wedi’u dal yn y system cyfiawnder troseddol.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Bwrw ymlaen â’r Fframwaith Strategol Llety yng Nghymru.
  • Cynyddu capasiti gwasanaethau Tai yn Gyntaf ledled Cymru, gan gynnwys ar gyfer pobl sydd yn y carchar.
  • Datblygu ein cyfrifoldebau o dan y Cytundeb Partneriaeth ar Iechyd Carchardai, gan gynnwys safonau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, datblygu Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio Sylweddau newydd ar gyfer carchardai a gwaith ar Reoli Meddyginiaethau.
  • Cyhoeddi a gweithredu Polisi Addysg Carchardai Cymru.
  • Sicrhau y gall pobl ifanc mewn sefydliadau diogel gael at y cymorth sydd ar gael drwy’r Warant i Bobl Ifanc, ac elwa o’r cymorth hwnnw.
  • Edrych ar ddatblygu cymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu ar gyfer y rhai sydd i fod i adael carchar.
  • Edrych ar y cyfle i garcharorion allu manteisio ar raglenni cyflogadwyedd eraill tra’u bod yn dal yn y carchar.
  • Parhau i ddilyn yr argymhellion yn y gwerthusiad o’r prosiect SToMP.

Rhaglenni diwygio cyfiawnder troseddol

Yr hyn rydym ni a sefydliadau partner wedi’i wneud

  • Cytuno ar fframwaith i gefnogi newid positif i’r rheini sydd y mae risg y byddant yn troseddu yng Nghymru.
  • Cytuno ar Lasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid a dechrau eu rhoi ar waith.
  • Ymwreiddio gwasanaethau dargyfeiriol i fenywod ledled Cymru.
  • Cyflwyno a gwerthuso’r fenter Fraenaru i Fenywod.
  • Sefydlu Cynadleddau Achos Braenaru i Fenywod ym mhob uned cyflawni prawf yng Nghymru.
  • Gwasanaeth “Ymweld â Mam” i fenywod sydd yng Ngharchar ei Mawrhydi Eastwood Park a Charchar ei Mawrhydi Styal.
  • Lansio Strategaeth Ymgysylltu â Dedfrydwyr, gan gynnwys hyfforddiant i weithwyr proffesiynol.
  • Cytuno ar weledigaeth ar gyfer plant Cymru mewn sefydliadau diogel.
  • Treialu dull amgen o remandio plant yn nalfa’r heddlu.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Agor y Ganolfan Breswyl gyntaf i fenywod fel cynllun peilot.
  • Ystyried beth y gellir ei wneud i ehangu’r defnydd o egwyddorion a chanllawiau Pontio Ieuenctid i Oedolion.
  • Datblygu gwaith ar fodelau yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth ieuenctid ddiogel yng Nghymru.
  • Cydweithio â phartneriaid i leihau nifer y plant sy’n cael eu cadw ar remánd.
  • Datblygu fframwaith atal ymarferol ar gyfer cyfiawnder ieuenctid, gan nodi ac ymwreiddio ymhellach arferion da a chydweithio sydd eisoes yn digwydd.
  • Ymwreiddio ymhellach ddull sy’n ystyriol o drawma mewn amgylcheddau diogel i bobl ifanc yng Nghymru.
  • Pwyso am gynllun peilot datrys problemau mewn llysoedd yng Nghymru.

Llysoedd a thribiwnlysoedd sifil a gweinyddol yng Nghymru

Yr hyn rydym wedi’i wneud

  • Comisiynu Comisiwn y Gyfraith i adolygu’r tribiwnlysoedd datganoledig.
  • Dechrau datblygu’r polisi manwl i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio’r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Creu Tribiwnlys Haen Gyntaf unedig i Gymru fel rhan o Wasanaeth Tribiwnlysoedd annibynnol strwythurol.
  • Creu Tribiwnlys Apeliadau i Gymru.
  • Trosglwyddo apeliadau yn erbyn gwaharddiadau ysgol i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf newydd (yn amodol ar ymgynghoriad).
  • Ehangu rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
  • Ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o gynhyrchu a chyhoeddi data tribiwnlysoedd Cymru.
  • Paratoi ar gyfer effaith diwygiadau’r Ddeddf Iechyd Meddwl ar lwyth achosion Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid i fwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i gydlynu a rhesymoli datrys anghydfodau sifil a gweinyddol yng Nghymru.
  • Trafod gyda Llywodraeth y DU argymhellion Comisiwn Thomas sy’n ymwneud â gwasanaethau crwneriaid.

Mynediad at gyfiawnder

Yr hyn rydym wedi’i wneud

  • Cyflwyno’r Gronfa Gynghori Sengl, gyda chyllid blynyddol o tua £11 miliwn, gan gefnogi gwasanaethau cynghori ledled Cymru i ryw 120,00 o bobl bob blwyddyn.
  • Gweithredu Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i’w defnyddio.
  • Cyhoeddi ein rhaglen gyntaf o weithgareddau o dan y Ddeddf, gan nodi ein hymrwymiad i brosiectau i gyflawni’r nod hwnnw dros oes y Senedd.
  • Cynhyrchu ystod o ganllawiau ar reoliadau Covid-19.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Gwerthuso’r Gronfa Gynghori Sengl ac edrych ar ddichonoldeb ffrwd ariannu grant anstrwythuredig.
  • Adrodd ar gynnydd yn erbyn ein rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
  • Gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith (Cymru a Lloegr) i nodi prosiectau pellach sy’n ymwneud â chyfraith Cymru.
  • Cyflwyno’r achos dros werthuso canlyniadau gwrandawiadau o bell a thros strategaeth ar gyfer mynediad o bell a mynediad wyneb yn wyneb i lysoedd yng Nghymru.
  • Parhau i ddadlau’r achos dros weithredu argymhellion Adolygiad Annibynnol Syr Christopher Bellamy o Gymorth Cyfreithiol Troseddol yn llawnach.
  • Gweithio gyda’r proffesiynau cyfreithiol i ehangu addysg gyfreithiol gyhoeddus a nodi’r ffordd orau o gefnogi gwasanaethau pro bono.
  • Gwrthwynebu unrhyw gynigion a fydd yn lleihau lefel y diogelu hawliau yn y Ddeddf Hawliau Dynol.

Y sector cyfreithiol ac economi Cymru

Yr hyn rydym wedi’i wneud

  • Gweithio gyda’r sector cyfreithiol i sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru.
  • Buddsoddi £3.9 miliwn o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru.
  • Darparu cyllid i alluogi cwmnïau’r gyfraith yng Nghymru i ennill achrediad seiberddiogelwch.
  • Cyhoeddi fframwaith prentisiaeth newydd i gefnogi dau gymhwyster CILEX newydd yng Nghymru, ar lefelau paragyfreithiol a pharagyfreithiol uwch.
  • Cefnogi diwygiad i’r Rheolau Trefniadaeth Sifil i’w gwneud yn ofynnol i hawliadau a gyflwynir yn y Llys Gweinyddol yn erbyn cyrff cyhoeddus yng Nghymru sy’n herio cyfreithlondeb eu penderfyniadau, gael eu cyhoeddi a’u clywed yng Nghymru.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cyfraith Cymru a’r sector cyfreithiol ehangach i nodi camau gweithredu allweddol i wella cynaliadwyedd y sector cyfreithiol yng Nghymru.
  • Comisiynu dadansoddiad o anghenion sgiliau’r gweithlu i ystyried yr achos dros ariannu prentisiaethau cyfreithwyr.
  • Datblygu gweithgor ar dyfu’r Bar cyfraith gyhoeddus yng Nghymru.
  • Parhau i ddadlau’r achos dros gael safle arall addas yn lle Canolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd.

Llywodraethu, materion cyfansoddiadol a chyfraith Cymru

Yr hyn rydym wedi’i wneud

  • Creu Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder mewn ymateb i argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i gael arweinyddiaeth glir ac atebol ar gyfiawnder.
  • Cydweithio ag asiantaethau cyfiawnder eraill i sicrhau’r canlyniadau gorau i Gymru o dan y setliad datganoli presennol, gan gynnwys Bwrdd Plismona a Phartneriaeth Cymru, Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a’r Glasbrintiau ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddau Menywod.
  • Sefydlu deialog ryngweinidogol gyda Llywodraeth y DU ar argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
  • Croesawu goruchwyliaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o faterion cyfiawnder, gan ddarparu pwynt atebolrwydd i’r Senedd.

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud

  • Parhau i gydweithio â rhannau eraill o’r system gyfiawnder, gan gynnwys grŵp rhyngweinidogol arfaethedig pedair gwlad y DU ar gyfiawnder.
  • Mynd ar drywydd yr achos dros warantu cynrychiolaeth o Gymru yn y Goruchaf Lys.