Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt wedi cyhoeddi heddiw ymgynghoriad yn holi barn ar sut y gallai cyrff cyhoeddus yng Nghymru fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn well.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, sy'n ofynnol o ganlyniad i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn anelu at sicrhau bod cyrff cyhoeddus perthnasol yn ystyried yr effaith gaiff eu prif benderfyniadau ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n cael effaith ar fynediad person at adnoddau materol a chymdeithasol h.y. gwaith, addysg a thrafnidiaeth.

Cyn i Lywodraeth Cymru ddechrau ar y Ddyletswydd, mae'n gofyn i aelodau'r cyhoedd a'r prif randdeiliaid am eu barn ar nifer o agweddau, gan gynnwys pa gyrff cyhoeddus ddylai gael eu cynnwys yn y ddyletswydd ac i egluro sut y caiff hyn ei gyflawni.  

Unwaith y bydd wedi dechrau, bydd y Ddyletswydd yn arwain y cyrff cyhoeddus penodedig ar sut y gall eu penderfyniadau, megis eu blaenoriaethau a'u hamcanion strategol, helpu i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Meddai Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

Mae lansio'r ymgynghoriad hwn yn gam hollbwysig yn ein gwaith o ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Mae cychwyn y ddyletswydd yn rhoi cyfle inni wneud pethau’n wahanol yng Nghymru, gan sicrhau bod mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn rhan ganolog o wneud penderfyniadau strategol. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac i sicrhau eu bod yn ystyried yr anfantais economaidd-gymdeithasol fel rhan o'u gwaith.

Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb, boed yn sefydliad neu yn unigolyn, i ymateb i'r ymgynghoriad i helpu i'n gwneud yn Gymru mwy cyfartal i bawb.