Mae siarter newydd sy’n rhoi lle canolog yn y broses gynllunio i ansawdd, cynaliadwyedd a chymuned wedi cael ei lansio heddiw gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Wedi’i datblygu ar y cyd â Chomisiwn Dylunio Cymru, mae Partneriaeth Creu Lleoedd Cymru yn dod â 25 o sefydliadau ynghyd sydd wrth lofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru yn addo:
- Sicrhau bod y gymuned leol yn cael cyfrannu at ddatblygu cynigion
- Dewis mannau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd
- Rhoi blaenoriaeth i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus
- Creu strydoedd a mannau cyhoeddus penodedig, diogel a chroesawgar
- Hyrwyddo cymysgedd cynaliadwy o ddefnyddiau i wneud lleoedd byrlymus
- Trysori a pharchu rhinweddau a hunaniaeth unigryw a chadarnhaol lleoedd.
Cyhoeddir canllaw byr i gyd-fynd â’r siarter fydd yn trafod yr agweddau pwysig hyn ac yn cynnwys astudiaethau achos i nodi arferion da. Wrth lansio’r siarter yng Nghynhadledd Ddigidol Sefydliad Cynllun Trefol Brenhinol Cymru 2020 “Cynlluniwr Cymru Byw”, dywedodd y Gweinidog:
Yn sgil y cyfnod clo, rydym wedi dod i werthfawrogi ein ‘lleoedd’ lleol yn fwy nag erioed ac mae’n hanfodol felly bod pob un ohonom sy’n gweithio yn sector yr amgylchedd adeiledig yn ymroi i wneud y lleoedd rydym yn byw, yn gweithio, yn siopa ac yn cwrdd ynddyn nhw cystal ag y gallan nhw fod, i bob aelod o gymdeithas.
Rhaid cael ein heconomi yn ôl ar ei thraed. Ond rhaid i’r adferiad amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd hwnnw fod yn gynaliadwy. Mae angen i ni feddwl nawr yn fwy nag erioed am leoedd ac am greu lleoedd.
Rhaid i ni sicrhau bod y byd ar ôl Covid yn rhoi lle canolog i les pobl. Ond wnawn ni ddim mo hynny ar ein pen ein hunain. Mae angen i’r diwydiant datblygu, awdurdodau cynllunio lleol, cyrff cyhoeddus, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd, ac yn yr ysbryd hwnnw, mae’n dda gen i lansio Siarter Creu Lleoedd Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru, Carole-Anne Davies:
Mae’n gweledigaeth yn syml, gwneud Cymru’n lle gwell. Mae dylunio da yn gwneud popeth yn well, a dyna pam mae lansio Siarter Creu Lleoedd Cymru’n garreg filltir mor bwysig wrth i ni ymrwymo i ddatblygu lleoedd bywiog ac unigryw sy’n rhoi pobl yn gyntaf. Yn y tymor hir, bydd hynny’n arwain at greu cymunedau cynhwysol a byrlymus â chysylltiadau cymdeithasol da ledled Cymru.