Gall ymarferwyr rannu'r templedi hyn o bosteri a llyfryn y gallan nhw eu haddasu â'r teuluoedd y maen nhw'n eu cefnogi.
Dogfennau
poster 10 tip gwych (fersiynau y gellir eu haddasu) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1011 KB
10 tip i fy helpu i ddysgu siarad (fersiynau y gellir eu haddasu) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Manylion
Mae fersiynau y gellir eu golygu o'r poster 10 neges allweddol 'Siarad Gyda Fi' a'r llyfryn i rieni ar gael at ddibenion cyfieithu yn unig. Sylwch fod cyfieithiadau swyddogol o'r llyfryn eisoes ar gael yn Nepali, Dari, Gujarati, Arabeg, Pwyleg, Punjabi, Wrdw, Portiwgaleg, Rwseg, Rwmaneg, Ffrangeg, Wcreineg, Tsieinëeg a Bengali.
Os oes angen fersiwn arnoch mewn iaith nad yw ar gael ar hyn o bryd, gallwch ddefnyddio'r fersiynau y gellir eu golygu i greu un gyda chymorth cyfieithydd proffesiynol. Sylwch mai chi fydd yn gyfrifol am ansawdd y cyfieithiad, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys y cynnyrch sydd wedi'i gyfieithu. Os ydych yn barod i rannu fersiynau wedi'u cyfieithu'n broffesiynol gyda chydweithwyr mewn ardaloedd eraill, anfonwch nhw at SiaradGydaFi@llyw.cymru