Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Sharon Lovell

Sharon Lovell yw’r Cadeirydd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Cyflwynwyd Sharon i waith ieuenctid am y tro cyntaf fel person ifanc ei hun wrth iddi fynychu ei chanolfan ieuenctid leol. Dechreuodd gymryd rhan frwd gyda Cyswllt Ieuenctid Cymru; sef sefydliad ieuenctid sy’n cael ei arwain gan gyfoedion a oedd yn canolbwyntio ar addysgu a rhoi gwybodaeth i bobl ifanc ar gyffuriau, alcohol, HIV/AIDS. Drwy wneud hyn, bu’n gweithio ledled Cymru gyda’r asiantaethau ieuenctid gwirfoddol a statudol. Ym 1994, graddiodd gyda diploma mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam ac aeth ymlaen i astudio am radd ym Mhrifysgol Birmingham.

Ar ôl graddio, dechreuodd weithio mewn hostel i bobl ddigartref ar gyfer pobl ifanc. Yn ystod y cyfnod hwn y sylweddolodd bod llawer o’r bobl ifanc roedd hi’n gweithio gyda nhw wedi bod yn y system ofal. Daeth y cysylltiad rhwng digartrefedd a’r system ofal yn amlwg iddi. Teimlai’n angerddol am yr anghyfiawnderau yr oedd pobl ifanc yn eu hwynebu. Sbardunodd hyn hi i symud i faes eirioli a hawliau plant a daeth yn eiriolwr i Gymdeithas y Plant; ei rôl oedd datblygu gwasanaethau eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc mewn awdurdodau lleol. Mae gan Sharon brofiad hefyd o weithio fel Prif Swyddog Gweithredol i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd, gan sefydlu Canolfan Gwybodaeth Ieuenctid Caerffili a gweithio fel gwirfoddolwraig yn ei chanolfan ieuenctid ac i Cymorth i Ferched Wrecsam.

Yn fwy diweddar, mae Sharon wedi helpu i lywio’r agenda a thirwedd eirioli Cymru; mae wedi bod yn hollbwysig yn sicrhau bod eirioli wedi dod yn hawl statudol i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, mae wedi datblygu gwasanaethau eirioli ledled Cymru ac wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a CLlLC i sicrhau dull eirioli cenedlaethol ar gyfer darpariaeth eirioli statudol; gan sicrhau drwy hyn fod plant a phobl ifanc sy’n dod i ofal yn cael cynnig darpariaeth eirioli brwd. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Gweithredol Cenedlaethol y Gwasanaeth Eirioli Ieuenctid Cenedlaethol ac mae ganddi’r cyfrifoldebau canlynol:

  • Cadeirydd; Grŵp Llywio Cenedlaethol i leihau troseddoli o ran plant/pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal 
  • Aelod o raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewidiadau radical i blant mewn gofal