Neidio i'r prif gynnwy

Mae gweithdai wedi'u cynnal ledled Cymru i helpu i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Model Cymdeithasol o Anabledd a'i bwysigrwydd ym mywydau pobl anabl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r model yn cydnabod bod pobl yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas, gan gynnwys agweddau ac ymddygiad pobl eraill a sefydliadau, yn ogystal â rhwystrau corfforol, ac nid oherwydd eu hamhariadau neu eu gwahaniaethau. 

Mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, roedd y gweithdai'n deillio o'r ymgynghoriad ‘Gweithredu ar Anabledd : Yr hawl i Fyw'n Annibynnol: Roedd y gweithdai hyn yn rhan o'r sgwrs am fframwaith Llywodraeth Cymru, i sicrhau ein bod yn gwybod mwy am y Model Cymdeithasol o Anabledd, cyflawni ein hymrwymiad i gynyddu dealltwriaeth o'r model ar draws Llywodraeth Cymru a'r tu hwnt.

Roedd y gweithdai'n caniatáu i gynrychiolwyr drafod a gofyn cwestiynau pwysig megis:

  • O ble y mae'r Model Cymdeithasol yn dod a pham y mae'n bwysig? 
  • Sut y mae'r Model Cymdeithasol yn grymuso pobl anabl? 
  • Sut y mae'r Model Cymdeithasol yn edrych yn ymarferol?
  • Enghreifftiau o ble y mae'r Model Cymdeithasol wedi'i ddefnyddio'n llwyddiannus. 
  • Beth yw'r heriau a'r rhwystrau sy'n atal y Model Cymdeithasol rhag cael ei roi ar waith ymhellach?
  • Sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod y Model Cymdeithasol yn cael ei adlewyrchu'n ehangach mewn cymdeithas? 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt sy'n gyfrifol am gydraddoldeb: 

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun sy'n caniatáu i bobl anabl gyflawni eu potensial a dileu unrhyw rwystrau a allai lesteirio eu dyfodol. 

Mae gweithio gyda phobl anabl yn ein helpu i ddeall y materion sy'n effeithio arnynt a sut y gellir adlewyrchu'r Model Cymdeithasol yn eang mewn cymdeithas.

Roedd yn galonogol clywed bod cymaint o bobl wedi dewis mynychu'r gweithdai a mynegi eu safbwyntiau yn dilyn yr ymgynghoriad. Gobeithio y bydd hyn yn helpu i ysbrydoli eraill i fod yn rhan o'r camau nesaf.

Roedd y gweithdai'n caniatáu i bobl rannu storïau personol, a chlywed profiadau pobl eraill - rhai da a drwg. Bydd caniatáu i bobl drafod y Model Cymdeithasol o Anabledd yn helpu i ddatblygu'r fersiwn derfynol o'r fframwaith newydd y disgwylir ei gyhoeddi yn haf 2019. 

Llun gan Natasha Hirst - @HirstPhotos.