Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ddirprwyaeth fwyaf hyd yma o ddatblygwyr gemau o Gymru wedi cyrraedd San Francisco ar gyfer prif gynulliad blynyddol y diwydiant yr wythnos hon, gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, Masnach a Buddsoddi a Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd 30 o gynrychiolwyr o 15 cwmni o Gymru yn mynd i’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau, cynulliad blynyddol mwyaf y byd o weithwyr proffesiynol y diwydiant gemau, i arddangos gemau newydd a ffurfio partneriaethau rhyngwladol. Mae cyfarfodydd gyda Lucasfilm, Playstation a Niantic (y stiwdio y tu ôl i Pokémon Go) eisoes yn rhan o'r daith.

Amcangyfrifir bod gwerth y diwydiant gemau fideo byd-eang oddeutu £352 biliwn gyda photensial enfawr ar gyfer twf yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae gemau'n flaenoriaeth allweddol i Cymru Greadigol sydd wedi cefnogi 77 o gwmnïau digidol yn uniongyrchol (gan gynnwys gemau, animeiddio a thechnoleg trochi).

Ar ôl y daith fasnach y llynedd i'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau, aeth cwmnïau gemau o Gymru yn eu blaen i sicrhau cytundebau gwerth dros £3 miliwn.

Un o'r rhai sy'n bresennol fel rhan o ddirprwyaeth Cymru am y tro cyntaf yw Jonathan Quinn, Cyfarwyddwr Technegol Aardman Animations (Wallace a Gromit). Ar ôl bron i 10 mlynedd yn y diwydiant, mae Quinn bellach yn sefydlu ei stiwdio gemau ei hun - Breaking Change - yng Nghasnewydd. Roedd cyfarfod Cymru Greadigol mewn cynhadledd ddiweddar yn San Francisco yn ffactor allweddol yn ei benderfyniad i sefydlu stiwdio yng Nghymru. Meddai:

Mae'r ethos cymunedol a'r gefnogaeth yn y sector gemau yng Nghymru yn rhywbeth y mae angen i ni weld mwy ohono ar draws y diwydiant ehangach. Fe wnaeth cefnogaeth Cymru Greadigol fy ysbrydoli i sefydlu fy stiwdio fy hun yng Nghymru ar ôl pedair blynedd yn Aardman. Mae'n gyfnod cyffrous i'r diwydiant gemau yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r hyn sydd i ddod.

Hefyd yn rhan o ddirprwyaeth Cymru mae'r arloeswr technoleg gemau Susan Cummings, Prif Swyddog Gweithredol 10six Games a Chyd-sylfaenydd Tiny Rebel Games, a fydd yn cymryd rhan mewn dadl ar ddyfodol y diwydiant yn y gynhadledd. Roedd Susan yn arwain y maes gemau symudol ac AR/VR yn gynnar ac wrth son am y gynhadledd dywedodd:

GDC yw uchafbwynt digwyddiadau gemau, gan ddod â gweithwyr proffesiynol brwdfrydig at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau'r diwydiant. Ar ôl mynychu ers 1996, rwy'n gwerthfawrogi sut mae Cymru Greadigol yn dyrchafu stiwdios annibynnol Cymru ar y llwyfan byd-eang.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, a oedd yno am y tro cyntaf:

Mae potensial enfawr i'r sector gemau yng Nghymru ac rydw i allan yma i roi canmoliaeth i'n stiwdios a dangos i ddarpar fuddsoddwyr y gefnogaeth sydd i'r sector yma yng Nghymru.

Rydym wedi gweld ffrwyth y gynhadledd hon mewn blynyddoedd blaenorol o ran cytundebau a wnaed a chwmnïau sy'n symud i Gymru. Rwy'n siŵr na fydd GDC 2025 yn eithriad, ac mai ymdrechion yr wythnos hon fydd y sbardun i gyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.