Mae’r newidiadau yn golygu y bydd Cymru’n arwain y byd o ran integreiddio sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm.
Mae newidiadau i’r cwricwlwm yn golygu y caiff sgiliau digidol bellach eu defnyddio ym mhob rhan o addysg disgybl, nid dim ond yn y pynciau TGCh neu Gyfrifiadureg.
Mae Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru bellach ar gael i ysgolion ar ôl i ddau adolygiad annibynnol argymell newidiadau i’r ffordd yr addysgir sgiliau digidol.Mae’r ffordd newydd o weithio’n golygu mwy na dim ond defnyddio cyfrifiaduron: y nod yw rhoi’r sgiliau digidol angenrheidiol i ddisgyblion er mwyn iddynt allu eu defnyddio yn y byd gwaith a’r byd ehangach yn y dyfodol.
Mae’r newidiadau yn golygu y bydd Cymru’n arwain y byd o ran integreiddio sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm. Y bwriad yw y bydd y Fframwaith yn datblygu ac yn newid wrth i’r byd digidol ddatblygu a newid.
Dywedodd Kirsty Williams:
Dywedodd Dr Mark Bentall, Pennaeth Ymchwil ym maes Cyfathrebu a Hedfan Awtomatig yn Airbus Group:"Mae’r ffordd newydd, radical hon o weithio yn golygu y caiff sgiliau a gwybodaeth ddigidol eu cynnwys ym mhopeth y bydd ein disgyblion yn ei wneud yn yr ysgol. Nid dim ond mewn gwersi cyfrifiaduron wythnosol y bydd disgyblion yn ymwneud â phethau o’r fath o hyn allan; bydd y sgiliau hanfodol hyn yn cael eu defnyddio ar draws y cwricwlwm gan eu bod, y dyddiau hyn, cyn bwysiced i ddatblygiad disgyblion â dysgu i ddarllen ac ysgrifennu.
"Mae hyn yn rhan bwysig iawn o’n hymdrechion i greu cwricwlwm sy’n briodol ar gyfer nawr a’r dyfodol, yn hytrach na’r ganrif ddiwethaf. Mae hyn yn fwy na dim ond defnyddio cyfrifiaduron – nod y newidiadau yr ydym yn eu cyflwyno yw sicrhau bod gan ddisgyblion y sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â thasgau a heriau o’r byd go iawn.
"Bydd ein hathrawon yn defnyddio mwy a mwy o sgiliau digidol yn eu gwersi, ynghyd â’r elfennau trawsgwricwlaidd eraill, sef llythrennedd a rhifedd, gan e bod oll bellach yn hanfodol yn y byd modern.
"Dyma’r elfen gyntaf o’r cwricwlwm newydd i Gymru. Rydym wedi gwrando ar arbenigwyr a phobl o fyd busnes a ddwedodd wrthym fod angen sgiliau digidol ar bobl ifanc i lwyddo yn y gweithle."
"Mae sicrhau bod ein plant yn cael addysg drylwyr a phrofiadau rhyngweithiol o gymhwysedd digidol yn hollbwysig i ddiwydiant. "Mae technolegau digidol yn rhan annatod o ddiwydiant bellach sy’n golygu na allwn ni fodloni ar fod yn ddefnyddwyr yn unig bellach; mae angen inni sicrhau bod ein system addysg yn rhoi dealltwriaeth i weithlu’r dyfodol o sut mae’r technolegau hyn yn gweithio er mwyn manteisio arnynt i’r eithaf."
Cafodd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ei ddatblygu gyda chymorth ysgolion arloesi digidol o bob cwr o Gymru, ac wrth gwrs caiff ei addasu a’i fireinio wrth i amser fynd yn ei flaen. Hefyd, caiff adnoddau ategol eu datblygu a’u diweddaru wrth i anghenion gael eu pennu.