Bydd unigolion ac unigolion sy'n ymwneud â'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yn parhau i gael cymorth.
Mae gweithdrefnau yn eu lle er mwyn caniatáu i’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd barhau i weithredu.
Mae’r cyfarpar angenrheidiol gan dîm y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd i weithio o gartref.
Mae darparwyr hyfforddiant y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wedi bod yn paratoi ar gyfer gweithio o bell drwy ddefnyddio dulliau digidol. Mae’n debygol y bydd yr arfer o weithio o gartref yn cynyddu yn y dyfodol agos.
Gellir cysylltu â Thîm y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd ar: EmployabilitySkills@llyw.cymru
Cofrestru
Gall unigolion sy’n dymuno ymuno â’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wneud hynny drwy eich Hyfforddwr Gwaith yn y Ganolfan Waith neu drwy Cymru’n Gweithio.
Dylech gysylltu â Cymru’n Gweithio drwy ffonio 0800 028 4844 neu ebostio Cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru
Hyfforddiant
Gofynnir i ddarparwyr hyfforddiant ddarparu cyngor, hyfforddiant a chymorth i ddysgwyr yn rhithwir lle bo hynny’n bosibl. Dylai dysgwyr gysylltu â’u darparwr dysgu am ragor o wybodaeth.
Rydym yn annog darparwyr dysgu i barhau i roi cymorth i ddysgwyr i barhau â’u dysgu, hyd yn oed mewn sefyllfa o hunan ynysu, lle bo’n bosibl gwneud hynny.
Gofynnwyd i ddarparwyr dysgu ddefnyddio’r technolegau sydd ar gael iddynt (fel Skype a Microsoft Teams) i gydweithio â dysgwyr yn rhithwir, lle bo’n bosibl gwneud hynny. Bydd darparwyr unigol yn gallu rhoi gwybod i bobl pa gynlluniau penodol sydd yn eu lle ar gyfer hyn.
Dylai darparwyr wneud pob ymdrech i gynnal adolygiadau gan ddefnyddio dulliau rhithwir. Dylai darparwyr hyfforddiant gadw cofnodion o gyfarfodydd a chyswllt rhithwir a chadw tystiolaeth berthnasol (er enghraifft e-byst) gan ddysgwyr a chyflogwyr.