Bydd cyflogwyr ac unigolion sy'n ymwneud â'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yn parhau i gael cymorth.
Mae gweithdrefnau yn eu lle er mwyn caniatáu i’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd barhau i weithredu.
Mae’r cyfarpar angenrheidiol gan dîm y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd i weithio o gartref.
Mae darparwyr hyfforddiant y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wedi bod yn paratoi ar gyfer gweithio o bell drwy ddefnyddio dulliau digidol.
Gellir cysylltu â Thîm y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd ar: EmployabilitySkills@llyw.cymru
Gwiriadau iechyd a diogelwch
Gall y rhai sy’n cymryd rhan barhau â’u profiad gwaith os ydynt yn y categori “gweithwyr hanfodol”, er enghraifft yn gweithio mewn archfarchnad.