Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ymchwil yn cynnwys safbwyntiau oddeutu 20 rhanddeiliad a 12 darparwr, a ategir gan arolwg teleffon o 100 o gyflogwyr o'r sector adeiladu yn y Canolbarth.

Comisiynwyd Miller Research (UK) Ltd gan ELWa i ymchwilio i anghenion sgiliau'r sector adeiladu yng Nghanolbarth Cymru ("y Canolbarth") wedi i CCAH Ceredigion nodi'r sector adeiladu yn un o'r meysydd twf posibl, yn enwedig yng nghyd-destun Cynllun Adfywio De Ceredigion.

Dadansoddwyd data a oedd ar gael gan ELWa er mwyn canfod proffil sylfaenol y ddarpariaeth bresennol yn y Canolbarth. Gan fod y wybodaeth honno'n gyfyngedig, casglwyd data ychwanegol o ffynonellau'r darparwyr eu hunain.

Wrth i gasgliadau ddod i'r amlwg, cynhaliwyd profion arnynt gyda gr^wp o ddarparwyr mewn sefyllfa gweithdy, cyn paratoi dadansoddiad terfynol ac adroddiad.

Cefndir adeiladu yng nghanolbarth Cymru

Mae adeiladu yn un o gryfderau cyflogaeth ranbarthol y Canolbarth, lle mae'n cyfrif am 8.7% o'r holl gyflogaeth, sy'n cymharu â chyfartaledd o 7.7% trwy Gymru gyfan. Ym Mhowys a Cheredigion cafwyd £77m o archebion newydd yn ystod 2002, gyda £32m o'r
swm hwnnw ar gyfer tai. Rhoddwyd hwb i'r buddsoddiad cyhoeddus gan y gwaith adfywio yn Ne Ceredigion. Un o nodweddion y sector yn y canolbarth yw cyfran uchel o fusnesau bach a microfusnesau sy'n dibynnu ar staff amlfedrus a rhwydweithiau anffurfiol i gwblhau prosiectau. Gosodir llawer o'r contractau mwyaf i gyrff o'r tu allan i'r rhanbarth, a fydd weithiau'n gosod cyfran o'r gwaith gydag isgontractwyr lleol.

Mae'r gyflogaeth yn gogwyddo'n gryf i gyfeiriad gwrywod a gwaith llawnamser. Mae yna gryfderau lleol o ran adfer ac atgyweirio adeiladau, a chanfuwyd bod potensial i ehangu sgiliau adeiladu gwyrdd yn y Canolbarth. Yn ôl rhagolygon y diwydiant, bydd angen 180 o ddechreuwyr newydd bob blwyddyn hyd at 2007, gyda bron eu hanner yn cyflenwi yn lle ymddeoliadau. Disgwylir y bydd y galw pennaf am grefftwyr coed, bricwyr, trydanwyr, peintwyr, proffesiynolion a phlymwyr. Ar lefel Cymru gyfan, disgwylir prinder dechreuwyr cymwysedig yn y crefftau coed, gosod briciau a pheintio.

Adroddiadau

Sgiliau adeiladu yng nghanolbarth Cymru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 604 KB

PDF
Saesneg yn unig
604 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.