Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd hwb ariannol o £6 miliwn i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd fel rhan o setliad terfynol Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid ychwanegol yn mynd yn uniongyrchol i'r Grant Cynnal Refeniw mewn cydnabyddiaeth o'r pwysau penodol yn ymwneud ag atal digartrefedd. Gall awdurdodau lleol benderfynu sut i ddefnyddio'r cyllid i fynd i'r afael â'r mater.


Mae'r cyllid ychwanegol yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn derbyn £4.1 biliwn o gyllid refeniw drwy'r setliad terfynol i lywodraeth leol. Mae hyn yn gynnydd o £10 miliwn o gymharu â 2016-17.


£433 miliwn yw cyfanswm y cyllid cyfalaf ar gyfer 2017-18.  Fel rhan o hyn, mae’r Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2017-18 wedi parhau ar yr un lefel, sef £143 miliwn. O ganlyniad bydd modd i gynghorau symud ymlaen i adeiladu ysgolion newydd, gwella ffyrdd lleol a darparu seilwaith hanfodol.


Mae terfyn gostyngiad cyllid o 0.5%, sy'n cyfyngu ar y gostyngiadau mwyaf a fyddai cynghorau wedi'u gweld yn eu cyllid craidd, hefyd yn aros yn ei le. 


Ar wahân i hyn, bydd y £10 miliwn ychwanegol ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig yn 2017-18 - fel y cytunwyd gyda Phlaid Cymru ac a gyhoeddwyd ar y penwythnos - yn cael ei ddarparu drwy awdurdodau lleol a'i dargedu at fusnesau ar y stryd fawr.  


Wrth gyhoeddi manylion y setliad terfynol, dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford:


"Rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi'r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer atal digartrefedd. Rydyn ni wedi bod yn gwrando ar ein partneriaid yn y sectorau elusennau a thai, ac fe fydd y £6 miliwn ychwanegol hwn yn rhoi'r gallu a'r hyblygrwydd i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r mater yn effeithiol.


“Fe ddwedais ym mis Hydref bod hwn yn setliad da ar gyfer llywodraeth leol, yn enwedig o ystyried y pwysau sy’n dod o wahanol gyfeiriadau ar Gyllideb Cymru.


"Mae'n deg dweud bod y setliad dros dro yn llawer gwell na'r hyn yr oedd y rhan fwyaf mewn llywodraeth leol yn ei ddisgwyl. 


"Ond rwy'n dweud yn glir bod y setliad hwn yn un i gynllunio ymlaen ar gyfer y penderfyniadau anodd o'n blaen.  Rydw i am weld awdurdodau lleol yn defnyddio'r pymtheg mis nesaf i feddwl yn ofalus am y pwysau fydd o'u blaen yn y dyfodol, a sut i baratoi'n effeithiol i reoli'r pwysau hwn."


Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant: 

"Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu awdurdodau lleol i adeiladu ar y cychwyn cadarnhaol iawn a welwyd wrth weithredu'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd llynedd i helpu pawb sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. 

"Mae atal digartrefedd yn helpu i ddiogelu iechyd a llesiant pobl, sydd yn ei dro yn medru helpu i leihau'r galw ar wasanaethau fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol."