Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw am Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru, rwy'n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod drwy’r Setliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol i Lywodraeth Leol ar gyfer 2022-23 (y Setliad). Rwyf hefyd yn cyhoeddi dyraniadau cyllid craidd dangosol ar lefel Cymru ar gyfer 2023-24 a 2024-25.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth baratoi'r Setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a gefais i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 8 Chwefror. Ni nodwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad unrhyw faterion y dylid newid y dull gweithredu a ddefnyddir mewn perthynas â hwy ar gyfer y Setliad terfynol.

O addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2022-23 yn cynyddu 9.4%, ar sail gyfatebol, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Ni fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd sy’n llai nag 8.4%. Yn 2022-23, bydd awdurdodau lleol yn cael £5.1bn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf Grant Cynnal Refeniw ac ardrethi annomestig i'w gwario ar ddarparu gwasanaethau allweddol.

At hynny, rwy’n cyhoeddi gwybodaeth am y grantiau refeniw a chyfalaf a gynllunnir ar gyfer y tair blynedd ganlynol. Ar gyfer 2022-23, cyfanswm y rhain yw mwy na £1.1bn ar gyfer refeniw a mwy na £700m ar gyfer cyfalaf.  Rydym yn darparu'r gwerthoedd grant dangosol hyn yn awr er mwyn i awdurdodau lleol allu cynllunio eu cyllidebau'n effeithlon.

Y dyraniadau cyllid refeniw craidd dangosol ar lefel Cymru ar gyfer 2023-24 a 2024-25 yw £5.3bn a £5.4bn yn y drefn honno – sy'n cyfateb i gynnydd o £177m (3.5%) yn y flwyddyn gyntaf a £128m (2.4%) yn yr ail flwyddyn. Ffigurau dangosol yw’r rhain ac maent yn dibynnu ar ein hamcangyfrifon presennol o incwm ardrethi annomestig dros gyfnod y Setliad amlflwyddyn, a'r cyllid a ddarparwyd i ni gan Lywodraeth y DU drwy Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2021.

Mae’r arwyddion yn awgrymu y bydd cyllid refeniw penodol ar gyfer grantiau yn parhau i  fod yn uwch na £1.1bn bob blwyddyn drwy gydol y Setliad amlflwyddyn hwn, ac y bydd grantiau cyfalaf yn fwy nag £700m bob blwyddyn.

Heblaw am gynnydd bach o £96 mil i’r Grant Cynnal Refeniw dosbarthadwy o ganlyniad i addasiad technegol, dyrennais yr holl gyllid sydd ar gael i'r setliad dros dro i roi cymaint o sicrwydd cynnar ag y gallwn i’r awdurdodau. Nid oes unrhyw gyllid pellach ar gael gennyf ar hyn o bryd.

Fel yn y blynyddoedd diwethaf, ein blaenoriaethau o hyd yw gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol. Bydd y Setliad sylweddol uwch hwn yn galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen a’u heisiau ar eu cymunedau, yn ogystal â chefnogi uchelgeisiau cenedlaethol a lleol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ein ymrwymiad cyflog byw gwirioneddol i gofal cymdeithasol a ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur chyfrannu at ein cynllun Cymru Sero Net.

Mae hwn yn Setliad da i lywodraeth leol, gan gynnwys dyraniadau cyllid craidd ar lefel Cymru ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Mae'n rhoi sylfaen sefydlog i awdurdodau lleol allu cynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod a thu hwnt i hynny. Rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol ac rydym yn gwerthfawrogi'r pwysau y maent yn eu hwynebu. Byddwn yn parhau i ddiogelu llywodraeth leol, yn enwedig ar yr adeg anodd a heriol hon.

Rwy’n cynnal y dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn 2021-22 ac yn  parhau i rewi'r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2022-23. Rwyf wedi darparu £35m ychwanegol mewn Grant Cynnal Refeniw yn 2022-23 i wrthbwyso'r incwm is, ac £1m arall am y ddwy flynedd ganlynol.

Mae tabl cryno wedi’i gynnwys gyda’r datganiad hwn sy'n nodi dyraniadau'r Setliad (Cyllid Allanol Cyfun) fesul awdurdod. Cyfrifwyd y dyraniadau gan ddefnyddio'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol.  O ganlyniad i'r fformiwla a'r data cysylltiedig, mae'r tabl yn dangos ystod y dyraniadau cyllid, o gynnydd o 8.4% dros Setliad 2021-22 i gynnydd o 11.2%. O ystyried y cynnydd sylweddol, nid wyf yn bwriadu cynnwys llawr eleni ac rwyf wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael yn y Setliad hwn.

Anfonir rhagor o fanylion at bob awdurdod lleol a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 yn £150m.  Bydd hyn yn cynyddu i £200m am y ddwy flynedd ganlynol, gan gynnwys £20m ym mhob blwyddyn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio.

Mae gosod cyllidebau a lefelau treth gyngor yn fater i bob awdurdod lleol unigol.  Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw gosod cyllidebau, a'r dreth gyngor yn ei thro. Bydd angen i awdurdodau ystyried pob ffynhonnell o gyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau sy'n eu hwynebu, wrth osod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae dadl ar y cynnig i'r Senedd gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2022-23 wedi cael ei threfnu i’w chynnal ar 8 Mawrth 2022.