Mae Seren a Sbarc, cymeriadau’r Siarter Iaith, yn ôl mewn llyfr newydd sy’n adrodd hanes eu taith drwy amser a hanes Cymru.
'Seren a Sbarc a’r Pei(riant) Amser' yw’r ail lyfr gan Huw Aaron ac Elidir Jones sy’n sôn am hynt a helynt y cymeriadau adnabyddus i blant cynradd, ac fe gafwyd darlleniad o’r stori newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yr wythnos hon.
Cyhoeddwyd y llyfr mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru, a bydd chwe chopi yn cael eu rhoi i bob ysgol gynradd yng Nghymru.
Mae Seren a Sbarc, cymeriadau hynod boblogaidd y Siarter Iaith, yn annog plant cynradd i ddefnyddio mwy ar eu Cymraeg ac i ymfalchïo yn iaith, hanes a diwylliant Cymru. Mae’r llyfr newydd hwn yn adrodd hanes y ddau arwr yn teithio trwy amser i gyfarfod y deinosoriaid, môr-ladron, y tywysogion ac arwyr Cymru, ac yn rhoi blas o’r cyfnodau a’r diwydiannau sydd i’w gweld yng nghasgliadau a safleoedd Amgueddfa Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
Mae’n wych gweld Seren a Sbarc yn dychwelyd ar antur newydd. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonon ni, ac mae’n bwysig bod plant yn cael eu grymuso i’w defnyddio o’r crud, er mwyn iddyn nhw ddatblygu sgiliau bywyd dwyieithog.
Dyma lyfr sy’n mynd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg. Mae’n ennyn diddordeb plant mewn ffordd hwyliog wrth iddyn nhw ddysgu am hanes Cymru a theimlo’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg.
Dywedodd Eleri Evans, Pennaeth Dysgu a Dehongli, Amgueddfa Cymru:
Rwy’ wedi gweld sut mae ymwneud â phobl, gwrthrychau ac adeiladau mewn amgueddfeydd yn ysbrydoli plant a phobl ifanc. Mae Amgueddfa Cymru yn cydweithio ag ysgolion ledled Cymru yn ein hamgueddfeydd ac ar-lein, a bydd cael gwybod bod plant yn cael eu cyflwyno i rai o’r lleoliadau hyn, diolch i Seren a Sbarc yn ffantastig. Mae mynd i amgueddfa, cyffwrdd gwrthrychoedd a gweld lleoliadau yn adnodd cyfoethog iawn ar gyfer dysgu Cymraeg hefyd, ac rydym yn cefnogi hynny gyda’n cynnig i ysgolion.
Mae dysgu Cymraeg drwy fynd i amgueddfa, cyffwrdd gwrthrychoedd a gweld lleoliadau yn adnodd cyfoethog iawn ar gyfer dysgu iaith, ac rydym yn cynnig hynny i ysgolion.
Dyma’r ail lyfr yn y gyfres o dri sy’n dweud hanes ein harwyr Cymraeg. Mae’n dilyn llwyddiant o 'Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd', a gyhoeddwyd mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru yn 2019 i gyd-fynd â Chwpan Rygbi’r Byd, ac sydd ar gael i’w brynu nawr. Bydd trydydd llyfr ar ei ffordd yn fuan.