Neidio i'r prif gynnwy

Mae Sêr Cymru yn rhaglen cyllido gwerth miliynau i ddod â thalent gwyddonol i swyddi ymchwil yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae rhaglen Sêr Cymru yn cynhyrchu ymchwil mewn meysydd gan gynnwys:

  • deunyddiau ynni
  • gwyddoniaeth amgylcheddol
  • biotechnoleg a gwyddorau bywyd

Mae'r rhaglen yn gwella cydweithrediad y sector drwy ei chysylltiadau â'r byd academaidd, diwydiannau a busnesau. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni carbon isel, ynni a'r amgylchedd, peirianneg uwch a deunyddiau.

Mae'r rhaglen wedi derbyn dros £100 miliwn o fuddsoddiad gan:

  • Llywodraeth Cymru,
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC),
  • Sefydliadau Addysg Uwch Cymru (SAU)
  • Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop
  • Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd

Mae hyn wedi cefnogi:

  • 12 cadeirydd ymchwil
  • 11 seren sy'n datblygu
  • 115 o gymrodoriaethau ymchwil
  • 340 o ysgoloriaethau ymchwil doethuriaeth ac Ôl-doethuriaeth

Mae'r rhaglen wedi cynhyrchu mwy na £180 miliwn mewn incwm grant ymchwil. Mae wedi cynyddu allbynnau, effeithlonrwydd ac effaith ymchwil Cymru.

Mae'r rhaglen yn parhau i fod yn weithredol tan 30 Mehefin 2023.Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer cam nesaf y rhaglen. Byddwn yn ymgynghori ar ei chynnwys.

Cadeiryddion Sêr Cymru sydd wedi cael cyllid ac sy’n cael cyllid ar hyn o bryd:

Mae'r rhaglen yn cefnogi tri Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol. Mae'r rhain yn helpu'r byd academaidd, busnesau, partneriaid diwydiannol a'r llywodraeth i gydweithio.

Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol: