Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r cyllid i adeiladu pum ysgol gynradd newydd yn nalgylch Gwernyfed ym Mhowys.
Mae'r cyllid ar gael fel rhan o'r Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae'r rhaglen hon, sy’n werth £1.4 biliwn, yn ffrwyth cydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol, gyda'r nod o greu cenhedlaeth o ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yng Nghymru.
Mae Cyngor Sir Powys wedi cael £11.8 miliwn i gyfrannu at gyfanswm cost y prosiect o £23.8 miliwn. Bydd hyn yn caniatáu i'r gwaith adeiladu ddechrau ar y prosiectau canlynol:
- Ysgol Gynradd Gymunedol y Gelli Gandryll
Bydd ysgol gynradd gymunedol newydd gyda lle i 210 o blant yn disodli'r ysgol bresennol sydd â 161 o ddisgyblion yn y dosbarthau derbyn i flwyddyn 6. Bydd cyfleusterau yn yr ysgol newydd ar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â chyfleusterau ieuenctid / cymunedol a llyfrgell gyhoeddus. Bydd hyn yn paratoi ar gyfer y cynnydd yn niferoedd y disgyblion a welir yn sgil sawl datblygiad tai newydd y bwriedir eu hadeiladu yn y dyfodol yn y Gelli Gandryll. - Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru yng Nghleirwy
Bydd ysgol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghleirwy gyda lle i 120 o blant yn disodli'r ysgol bresennol sydd ag 85 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Bydd yr ysgol hon hefyd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar. Diben yr ysgol newydd yw ateb y galw a ragamcenir am leoedd yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yng ngogledd y dalgylch. - Ysgol Gynradd Gymunedol Bronllys/Talgarth
Bydd ysgol gynradd gymunedol gyda lle i 150 o blant a gaiff ei hadeiladu ar safle maes glas yn Nhalgarth yn disodli dwy ysgol bresennol – Ysgol Gynradd Gymunedol Talgarth sydd â 56 o ddisgyblion, ac Ysgol Gynradd Gymunedol Bronllys sydd â 32 o ddisgyblion. Bydd cyfleusterau ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chyfleusterau ieuenctid a chymunedol ar gael yn yr ysgol newydd hon hefyd. Bydd y datblygiad hwn yn paratoi ar gyfer y cynnydd yn niferoedd y disgyblion yn Nhalgarth a'r ardal ehangach yn sgil nifer o ddatblygiadau tai newydd dros y blynyddoedd nesaf. - Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru yn Llan-gors
Bydd ysgol newydd yr Eglwys yng Nghymru yn Llan-gors gyda lle i 150 o blant yn disodli'r ysgol bresennol sydd â lle ar gyfer 146 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys lle ar gyfer disgyblion y blynyddoedd cynnar, ac yn ateb y galw am leoedd yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yn ne'r dalgylch. - Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru - yr Archddiacon Griffiths, Llys-wen
Bydd ysgol newydd yr Eglwys yng Nghymru gyda lle i 150 o blant yn disodli'r ysgol bresennol sydd â lle ar gyfer 129 o ddisgyblion. Bydd yr ysgol hon yn ateb y galw am leoedd yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yng ngorllewin y dalgylch. Bydd gan yr ysgol hon hefyd gyfleusterau ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies:
“Mae sicrhau buddsoddiad cyfalaf yn ystod y cyfnod economaidd anodd ar hyn o bryd yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer deilliannau addysgol gwell ond hefyd i barhau i gefnogi ein diwydiant adeiladu ac ar gyfer twf yr economi.
“Mae hyn yn newyddion gwych i bobl leol ac ar gyfer dyfodol addysg yn yr ardal hon.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Ysgolion, y Cynghorydd Arwel Jones:
“Rydym wrth ein bodd bod y cynlluniau uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer pum ysgol gynradd newydd yn nalgylch Gwernyfed wedi cael eu cymeradwyo'n derfynol gan Lywodraeth Cymru, fel y gall y gwaith adeiladu ddechrau mor fuan â phosibl.
“Rhyngddyn nhw, bydd yr ysgolion yn darparu'r cyfleusterau diweddaraf lle y gall dysgwyr ifanc gael eu haddysgu, gan ddangos ymrwymiad y cyngor i addysg ym Mhowys.”