Mae Julie James, Arweinydd y Tŷ, wedi cyhoeddi bod panel newydd wedi’i sefydlu i gynnig her a chyngor ar wella gwasanaethau cyhoeddus drwy wneud gwell defnydd o dechnolegau digidol.
Lee Waters AC sy’n arwain y gwaith o sefydlu’r Panel Digidol allanol a’r nod yw helpu i wella’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru drwy wneud gwell defnydd o dechnolegau digidol.
Bydd y panel yn helpu i lywio’r camau nesaf i wella’r ffordd yr ydym yn defnyddio technolegau digidol, a bydd hefyd y cynnig her a chyngor allanol i sector cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Julie James: “Rydyn ni wedi gweld newidiadau enfawr yn ystod y ddau ddegawd diwethaf o ran sut mae technoleg ddigidol yn cyffwrdd â’n bywydau. Gan amrywio o fancio ar-lein i ddarparu newyddion; o dwf y cyfryngau cymdeithasol i siopa a gofal iechyd, mae’r ffordd rydyn ni’n mynd ati i weithio ac i chwarae yn parhau i gael ei gweddnewid.
“Fel Llywodraeth Cymru, mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio’n pwerau datganoledig i helpu’n cymunedau, ein busnesau a’n gwasanaethau cyhoeddus i ymateb, i addasu ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.
“Dw i’n falch o gael sefydlu’r panel hwn a fydd yn cynnig cyngor a her i’r gwasanaethau cyhoeddus.”
Dyma aelodau’r panel:
- Lee Waters AC – Aelod Cynulliad dros Lanelli sydd â diddordeb mawr ym mhotensial technoleg ar draws y sector cyhoeddus, ac ar draws Cymru yn fwy cyffredinol.
- Anne Marie Cunningham – meddyg teulu a chyfarwyddwr meddygol cyswllt. Ymgyrchydd cryf dros gyfiawnder cymdeithasol, gofal iechyd cynaliadwy a thrawsnewid digidol.
- Victoria Ford – cyfarwyddwr gyda Perago sydd ag arbenigedd ym maes newid, cyfathrebu ac ymgysylltu.
- Paul Matthews – Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Mynwy ac athro gwadd ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Mark Wardle – niwrolegydd ymgynghorol a gwybodegydd clinigol. Cadeirydd Bwrdd Safonau Technegol GIG Cymru.
- Dominic Campbell – Prif Swyddog Digidol dros dro Homes England a sylfaenydd FutureGov. Arbenigwr ar lywodraeth ddigidol.
- Sally Meecham – Arbenigwr Digidol, Data a Thechnoleg gydag Ymchwil ac Arloesi yn y DU. Mae ganddi brofid ym maes trawsnewid digidol fel Prif Swyddog Digidol gyda Defra ac fel Prif swyddog Gweithrediadau gyda Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth.