Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi cyhoeddi y bydd grŵp newydd yn cael ei sefydlu i ystyried gwelliannau i'r sector lesddaliadau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd grwpiau sy'n cynrychioli gwahanol safbwyntiau ar lesddaliadau, gan gynnwys grwpiau preswylwyr, adeiladwyr tai, gwasanaethau cyngor a gweithwyr proffesiynol ym maes tai, yn dod at ei gilydd yr wythnos nesaf i ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried nifer o faterion:

  • methiannau o fewn y system lesddaliadau yng Nghymru: sut maent yn effeithio ar lesddeiliaid, ac unrhyw argymhellion i fynd i'r afael â'r rhain
  • rhoi cyngor ar lunio a rhannu deunyddiau i egluro'n well sut mae lesddaliadau'n gweithio a chanllawiau a hyfforddiant i'r rheini sy'n ymwneud â phrynu neu werthu eiddo sydd dan lesddaliad
  • cynigion ar gyfer cod ymarfer gwirfoddol i asiantiaid rheoli
  • opsiynau ar gyfer perchnogion eiddo sydd dan rydd-ddaliad ar ystadau preifat i herio ffioedd ystadau. 

Dywedodd Rebecca Evans:

"Rwyf wedi cymryd y cam hwn yn sgil beirniadaeth eang o arferion gwael o ran y ffordd mae lesddaliadau’n cael eu defnyddio yng Nghymru. Ni fyddwn yn cefnogi arferion sy'n cael effaith negyddol ar berchnogion tai.

"Mae'r rhain yn faterion cymhleth, ac rwyf wedi gofyn i ystod eang o bartïon â diddordeb i ddarparu cyngor er mwyn i mi allu cymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn a sicrhau bod pobl yn gallu teimlo'n hyderus wrth brynu eiddo sydd dan lesddaliad." 

Mae'r grŵp yn cynnwys Ffederasiwn Cymdeithasau Preswylwyr Preifat, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a'r Sefydliad Tai Siartredig, a bydd ar waith am hyd at ddwy flynedd. Rhagwelir y bydd y Gweinidog yn cael adroddiad gan y grŵp gorchwyl a gorffen yn haf 2019.