Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi manylion menter newydd ar gyfer mynd i'r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau mewn anifeiliaid ac yn yr amgylchedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhaliodd Grŵp Cyflenwi Cymru ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a'r Amgylchedd ei gyfarfod cyntaf ddoe (13 Mai) a bydd yn cwblhau'n derfynol Gynllun Gweithredu ar gyfer cyflawni hyn dros y pum mlynedd nesaf.

Ei nod fydd atal a rheoli clefydau heintus mewn anifeiliaid a sicrhau bod gwrthfiotigau yn cael eu defnyddio'n gyfrifol yng Nghymru. 

Bydd hefyd yn mynd i'r afael â bacteria sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau yn yr amgylchedd sy'n lledu rhwng anifeiliaid a phobl, y bwydydd y maent yn eu bwyta a'r mannau y maent yn eu rhannu. 
Bydd y Cynllun Gweithredu a'r Grŵp Grŵp newydd yn cyflawni cyfraniad Cymru at Gynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU dros Bum Mlynedd, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2019.

Bydd y Grŵp yn cydweithio'n agos â gweithwyr yn y maes meddygol ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru er mwyn sicrhau dull cwbl unedig a chyson o fynd i'r afael â bygthiad ymwrthedd i gwrthfiotigau. 

  • Nodau'r Grŵp dros y pum mlynedd nesaf fydd:
  • lleihau'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau ar gyfer trin anifeiliaid drwy atal heintiau. 
  • cyfyngu cymaint â phosibl ar ddatblygiad a lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau yn yr amgylchedd. 
  • sicrhau defnydd mor gynaliadwy â phosibl o wrthfiotigau mewn anifeiliaid. 
  • sicrhau goruchwylio digonol er mwyn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer rheoli ymwrthedd i wrthfiotigau
  • cydweithio ag eraill er mwyn cyflawni gwrthfiotigau effeithiol yn y dyfodol. 

Mae cynnydd ac ymlediad Ymwrthedd i Wrthficrobau yn peri bygythiad difrifol i'n gallu i reoli heintiau o fewn lleoliadau gofal iechyd, o fewn y gymuned ehangach ac mewn anifeiliaid. 

Mae effaith methu atal ymwrthedd i wrthficrobau yn helaeth ac yn gostus iawn ar lefel ariannol a hefyd o ran iechyd byd-eang, iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid, masnach, diogelwch bwyd, llesiant amgylcheddol a datblygiad cymdeithasol-economaidd. 

Gobeithir y bydd dull cydgysylltiedig rhwng y llywodraeth, ceidwaid anifeiliaid a milfeddygon yn rheoli lledaeniad clefydau heintus a hefyd yn rheoli'r defnydd o'r gwrthfiotigau a gaiff eu defnyddio i'w trin. 

Bydd y Grŵp Cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a'r Amgylchedd yn adrodd wrth Grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid ac i Grŵp Llywio Ymwrthedd Gwrthficrobaidd / Heintiau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru a gaiff ei gadeirio gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru'n aelod o'r Grŵp hwn. Ar ôl gwneud hyn bydd yn cyflwyno ei Gynllun Gweithredu i Lesley Griffiths sef Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, fel y gall ei ystyried a'i fabwysiadu.

Mae aelodau'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant ffermio, y proffesiwn milfeddygaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd y Gweinidog, Lesley Griffiths:

"Rwy'n falch iawn i sefydlu'r Grŵp hwn a fydd yn mynd i'r afael â mater ymwrthedd gwrthficrobaidd, sef mater sy'n peri cryn bryder.

"Mae'n allweddol ein bod oll yn cydweithio er mwyn gwneud pob ymdrech i atal lledaeniad clefydau anifeiliaid ac i sicrhau bod y driniaeth fwyaf addas yn cael ei defnyddio bob tro. 

"Gall effeithiau ymwrthedd gwrthficrobaidd fod yn gostus ac yn niweidiol iawn, i geidwaid anifeiliaid a milfeddygon a hefyd i'r gymuned ehangach. Dyma pam y mae arnom angen ganllawiau ar gyfer mynd i'r afael â'r mater. Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen argymhellion y grŵp."

Dywedodd Gareth Thomas, sy'n gweithio o fewn y diwydiant ffermio:

"Credwn fod angen i Gymru bellach ganolbwyntio ar leihau'r defnydd o wrthfiotigau." Gallwn ni, fel diwydiant, gyfrannu at y gwaith o sicrhau bod triniaethau gwrthfiotig mor effeithiol â phosibl. Bydd hyn yn helpu i leihau costau a gwella llesiant cyffredinol, gan sicrhau bod y meddyginiaethau cywir yn cael eu defnyddio bob amser, yn hytrach na bod yr un triniaethau yn cael eu defnyddio ar gyfer trin pob haint. Canlyniad hyn fydd lleihad yn y ddibyniaeth ar wrthfiotigau."