Sefydlu dull ysgol gyfan mewn lleoliadau addysg arolwg: hysbysiadau preifatrwydd
Hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer arolwg ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol mewn lleoliadau addysg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae’r Is-adran Iechyd a Llesiant mewn Addysg yn Llywodraeth Cymru wedi comisiynu’r Gangen Ymchwil Ysgolion o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwil. Nod yr ymchwil yw deall y gwaith o weithredu’r Dull Ysgol Gyfan mewn lleoliadau addysgol, yn dilyn cyhoeddi canllawiau fframwaith statudol ym mis Mawrth 2021.
Fel rhan o’r ymchwil hon, bydd y Gangen Ymchwil Ysgolion yn casglu gwybodaeth arolwg ar-lein gydag ysgolion, gan gynnwys aelodau o’r uwch dîm rheoli ac arwain ac arweinwyr iechyd a llesiant. Hoffem wybod am eich rôl yn eich ysgol a’ch cyfeiriad e-bost os ydych yn nodi y gellir cysylltu â chi i gymryd rhan mewn ymchwil ddilynol.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymchwil hon yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd data personol yn cael ei ddileu cyn ysgrifennu’r adroddiad ac ni fydd y Gangen Ymchwil Ysgolion yn darparu data personol y gellir eich adnabod drwyddo i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn inni wneud hynny.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil yn hollol wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Hysbysiad preifatrwydd
Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.
Byddwch wedi cael mynediad at y ddolen i’r arolwg drwy Hwb, Dysg neu sianeli cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Addysg Cymru. Opsiwn arall yw y bydd trydydd parti fel yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol neu Gyfarwyddwyr Addysg mewn Awdurdodau Lleol wedi rhannu’r arolwg â chi neu’ch ysgol drwy e-bost neu eu cylchlythyr.
Nid oes angen ichi ddarparu unrhyw ddata personol ac nid yw eich cyfeiriad e-bost na’ch cyfeiriad IP yn cael eu casglu’n awtomatig fel rhan o gwblhau’r arolwg. Nid yw eich ymatebion yn weladwy i’r sefydliad a anfonodd y ddolen atoch.
Fodd bynnag, hoffem archwilio materion yn fanylach drwy gyfweliadau dilynol. Bydd y cyfweliadau a’r dadansoddi data yn cael eu cynnal o dan gontract er nad yw’r contract hwn wedi’i ddyfarnu eto gan Lywodraeth Cymru. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Os ydych yn fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad dilynol, bydd opsiwn ichi ddarparu eich cyfeiriad e-bost fel rhan o’ch ymateb i’r arolwg. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu ymatebion i’r arolwg, ynghyd ag unrhyw fanylion cyswllt a ddarperir, â’r contractwr llwyddiannus ar gyfer cam nesaf y prosiect hwn. Er na fydd y cyfweliadau yn gofyn ichi ddarparu unrhyw ddata personol arall (ac eithrio eich gwedd os bydd cyfweliad yn cael ei recordio), bydd hysbysiad preifatrwydd pellach yn cael ei ddarparu cyn ichi gymryd rhan mewn unrhyw gyfweliad.
Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ynghylch yr arolwg hwn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais cyn ei ddileu o ddata’r ymchwil.
Beth yw’r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth yn y broses gasglu data hon yw ein tasg gyhoeddus: hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil o’r math hwn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gellid defnyddio’r wybodaeth a gesglir yn y prosiect hwn, er enghraifft, ar gyfer:
- llywio penderfyniadau polisi ynghylch gweithredu’r Fframwaith ar gyfer sefydlu Dull Ysgol Gyfan
- llunio datblygiad offer ac adnoddau i gefnogi lleoliadau addysg i ddatblygu eu Dull Ysgol Gyfan
- darparu cyfeiriad ar gyfer sut y gellir cefnogi ysgolion ymhellach i sefydlu’r Dull Ysgol Gyfan
- llywio rhagor o ymchwil ynghylch gweithredu’r Fframwaith ar gyfer sefydlu Dull Ysgol Gyfan
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn mae ffolder wedi’i chreu sydd â mynediad wedi’i gyfyngu i’r tîm ymchwil uniongyrchol yn unig.
Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau ar waith i fynd i’r afael ag achosion lle ceir amheuaeth o dorri rheolau diogelu data. Os ceir amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae’n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Bydd y dadansoddi a’r ymchwil ddilynol a gynhelir i gefnogi’r dibenion a amlinellir uchod yn cael eu cynnal gan drydydd parti achrededig a bydd unrhyw waith o’r fath ond yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?
Bydd unrhyw ddata personol a roddwch yn cael ei rannu â’r contractwr ar gyfer y cam dadansoddi a chyfweld a byddant yn dileu’r holl ddata ar ddiwedd y contract, gan gynnwys eich manylion cyswllt. Bydd y contractwr yn cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru a bydd Llywodraeth Cymru yn dileu unrhyw ddata personol sydd ganddynt amdanoch o ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect hwn o fewn tri mis i gyhoeddi’r adroddiad terfynol.
Hawliau’r unigolyn
O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r ymchwil hon. Yn benodol, mae gennych yr hawl:
- i weld copi o’ch data
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
- i’ch data gael ei ddileu (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113.
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â’r swyddog canlynol:
Enw: Daniel Burley
Cyfeiriad e-bost: Daniel.Burley002@llyw.cymru
Rhif ffôn: 03000250721
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru