Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, gyllid ychwanegol gwerth £10 miliwn ar gyfer hyfforddiant ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cael ei lansio'n swyddogol heddiw, ac mae'n tynnu ynghyd Deoniaeth Cymru, Canolfan Addysg Fferyllol Cymru i Raddedigion (WCPPE) a Gwasanaethau'r Gweithlu, Addysg a Datblygu GIG Cymru  er mwyn creu un sefydliad i gomisiynu, cynllunio a datblygu addysg a hyfforddiant gweithlu'r GIG. 

Bydd AaGIC yn gyfrifol am ddarparu cyfleoedd dysgu parhaus, a fydd yn hanfodol er mwyn ymateb i ddatblygiadau mewn technoleg yn y sector iechyd. Bydd hefyd yn gyfrifol am gynllunio’r gweithlu a hybu gyrfaoedd yn GIG Cymru.

Bydd tua £10 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn e-lyfrgell GIG Cymru, sy'n darparu deunyddiau dysgu i holl staff GIG Cymru, gan gynnwys e-gyfnodolion, papurau ymchwil a gwybodaeth arall sydd ar flaen y gad.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

"Rydym wedi llunio'n cynllun hirdymor i drawsnewid y gwasanaeth iechyd; i  ddod â gwasanaethau yn agosach i gartrefi'r cleifion a lleihau'r ddibyniaeth ar ysbytai. Mae cael gweithlu sy'n gryf a chynaliadwy yn hollbwysig er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â'r gwaith trawsnewid, a dyma un o'r prif resymau dros lansio AaGIC heddiw.

"Bydd AaGIC yn helpu i feithrin a datblygu pobl a sefydliadau er mwyn iddynt allu cyflawni'r camau  nesaf yn y gwaith o ddatblygu'r GIG a bydd hynny yn arwain at wasanaethau gwell i bobl Cymru.


Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

"Rydym wedi ymrwymo i ddenu rhagor o Feddygon Teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i weithio yng Nghymru. Mae lansio AaGIC yn dangos yr ymrwymiad parhaus yng Nghymru i gryfhau a chefnogi ein gweithlu ac mae'n trosglwyddo neges glir am Gymru, sef ei bod yn lleoliad arbennig i weithwyr iechyd proffesiynol hyfforddi a gweithio ynddi.


Dywedodd Dr Chris Jones, Cadeirydd AaGIC:

Drwy gefnogi GIG Cymru, a chydweithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, bydd AaGIC yn rhoi ffocws ac egni i'r gwaith o ddatblygu  gweithlu gofal iechyd ar gyfer y dyfodol. Mae'n gyfle cyffroes i ni greu enw da yng Nghymru am ein gwaith am ein haddysg gofal iechyd, hyfforddiant, recriwtio a chadw. 

“Ni yw'r 11eg corff iechyd, ac felly rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'n partneriaid yn y GIG, y sefydliadau iechyd ehangach, a'n partneriaid addysg i wella gofal drwy drawsnewid y gwasanaeth, creu gweithlu sydd wedi'i hyfforddi'n dda ac sy'n gallu addasu i dechnolegau newydd a rhagoriaeth mewn gofal.”