Mae grŵp o arbenigwyr wedi lansio Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd: Cynllun Addasu’r Sector.
Mae rhai o safleoedd a thirweddau hanesyddol mwyaf eiconig Cymru dan fygythiad yn sgil tymereddau cynhesach, y ffaith bod lefel y môr yn codi, patrymau glawiad newidiol ac achosion mwy rheolaidd o dywydd eithafol.
Mae’r cynllun yn tynnu sylw at yr angen i bob sector gydweithio a chymryd camau gyda’i gilydd er mwyn gwella dealltwriaeth; meithrin capasiti a all addasu a chynyddu cydnerthedd yr amgylchedd hanesyddol – fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.
Mae Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol yn fforwm cenedlaethol a gaiff ei arwain gan Cadw sy’n cynnwys cyrff y sector cyhoeddus, cynrychiolwyr o sefydliadau’r sector gwirfoddol a pherchenogion safleoedd hanesyddol. Gofynnwyd i Is-Grŵp Newid Hinsawdd y Grŵp asesu ac adrodd wrth y Grŵp ar y modd y dylai sector yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru fynd i’r afael â her y newid yn yr hinsawdd. Ffrwyth eu gwaith nhw yw Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd: Cynllun Addasu’r Sector. Mae’r Cynllun yn deillio o ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid ac mae’n cyd-fynd â chynllun addasu Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd, sef Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd.
Gwnaeth aelodau’r Grŵp gyfarfod â’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas er mwyn lansio’r cynllun. Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Mae’n rhaid i ni ailystyried y ffordd rydym yn rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru er mwyn ymateb i fygythiadau’r newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal â chymryd camau i gyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd mae’n hollbwysig ein bod hefyd yn addasu i’r newidiadau sydd eisoes yn digwydd yn sgil allyriadau hanesyddol ac allyriadau presennol.
Dywedodd Cadeirydd Is-Grŵp Newid Hinsawdd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol, Jill Bullen:
“Mae nifer o’r bobl sy’n rheoli safleoedd a thirweddau hanesyddol a phwysig eisoes yn ystyried y newid yn yr hinsawdd a goblygiadau hyn i’w gwaith. Rydym wedi ceisio manteisio ar eu harbenigedd, gan rannu eu profiadau a’r gwersi y maent wedi’u dysgu.
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, wedi croesawu’r cynllun. Dywedodd:
“Yn ogystal â datgarboneiddio economi Cymru mae’n rhaid i ni hefyd ymateb i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Rydym eisoes yn gweld yr effeithiau hyn yn gynyddol aml.”
“Mae’r cynllun newydd hwn yn cyd-fynd â’r camau a nodir o fewn Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar.”
“Rydym eisoes wedi buddsoddi’n sylweddol mewn camau i addasu i’r newid yn yr hinsawdd ac er mwyn paratoi at y dyfodol. Rydym wedi gwneud hyn drwy ystod eang o bolisïau, rhaglenni ac ymyriadau. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i anelu at gyflawni gwlad sy’n fwy ffyniannus, yn fwy cyfartal ac yn fwy gwyrdd.
Daeth y Dirprwy Weinidog i’r casgliad canlynol:
“Hoffwn ddiolch i Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol am arwain y ffordd â’r Cynllun hwn. Mae’n nodi’r peryglon a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y newid yn yr hinsawdd a’r addasiadau y mae gofyn i sector yr amgylchedd hanesyddol eu gwneud. Yn fwy na dim mae’n galw arnom i wynebu’r her a dechrau cymryd camau nawr.
Mae Cadw hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar lifogydd ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru-sy'n rhoi cyngor ar ffyrdd o sefydlu perygl llifogydd a pharatoi ar gyfer llifogydd posibl drwy osod mesurau amddiffyn. Mae hefyd yn argymell camau i'w cymryd yn ystod llifogydd ac wedi hynny er mwyn lleihau difrod a risgiau.