Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, mae mwy o Brydeinwyr nag erioed o’r blaen yn dewis dod i Gymru ar eu gwyliau.
Roedd yn cyhoeddi’r newyddion da hwn yn ystod ei ymweliad heddiw â’r ‘Profiad Bathdy Brenhinol’ - atyniad diweddaraf Cymru.
- Ffigurau ymwelwyr o Brydain Fawr dros nos yng Nghymru yn curo ffigurau 2014, sef y rhai gorau erioed
- yn 2015, cynnydd yn nifer yr ymwelwyr o dramor a ddaeth ar wyliau i Gymru ynghyd â’r gwariant
- atyniad ymwelwyr diweddaraf Cymru yn cael wythnosau cyntaf prysur dros ben
Yn 2015, denodd Cymru 10.45 miliwn o ymwelwyr dros nos o Brydain Fawr, ffigur sydd wedi torri’r record. Mae’r ffigur hwn 4.5% yn uwch na ffigurau 2014 pan, am y tro cyntaf erioed, roedd nifer yr ymwelwyr a ddaeth i Gymru yn uwch na 10 miliwn. Dengys y ffigurau bod y rheini â ymwelodd â Chymru dros nos y llynedd wedi gwario bron i £2 biliwn - cynnydd o bron i 14% ar 2014.
Hefyd, mae ein marchnadoedd tramor wedi bod yn perfformio’n wych, ac yn ôl Arolwg Teithwyr Rhyngwladol yr ONS, yn 2014, gwelwyd cynnydd o 4%, sef 970,000 o dripiau o dramor i Gymru. Cynyddodd y lefelau gwariant 11.4% i £410 miliwn hefyd, ffigur sydd wedi torri’r record.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod strategaeth twristiaeth Cymru yn gweithio’n dda ac yn creu amodau delfrydol ar gyfer twf. Fel yr wyf wedi gweld heddiw ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol, mae’r diwydiant, gyda help Llywodraeth Cymru, yn datblygu’n dda iawn ac yn buddsoddi mewn cynhyrchion a digwyddiadau sydd o ansawdd uchel ac sy’n arloesol iawn. Mae hyn wedi helpu i ddiogelu twf a denu marchnadoedd targed amrywiol iawn i Gymru.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio â’r diwydiant i gynnal y twf hwn ac i gyrraedd ein nod, sefdatblygu’r diwydiant twristiaeth 10% erbyn 2020. Ers 2006, mae nifer y swyddi yn sector twristiaeth Cymru wedi tyfu’n gynt nag unrhyw sector twristiaeth arall yn y Deyrnas Unedig, a thros y deg mlynedd diwethaf, mae nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi gan y sector Twristiaeth wedi cynyddu 33,600, y twf mwyaf ond un ymysg yr holl sectorau blaenoriaeth.
“Mae’r ffaith ein bod yn rhoi thema wahanol i bob blwyddyn yn eithriadol o boblogaidd ac mae thema eleni, sef ‘Antur’ wedi cael llawer o gefnogaeth a sylw. Bellach, mae Cymru yn cael ei hadnabod fel cyrchfan antur o’r radd flaenaf. Rydym nawr yn awyddus i gyflwyno ein cynlluniau ar gyfer thema 2017 sef ‘Chwedloniaeth’.
“Yn ôl arolwg a gynhaliodd y diwydiant yn dilyn gwyliau’r Pasg, mae pobl yn edrych ymlaen ac yn hyderus yn y tymor sydd i ddod; rwy’n siŵr bod y tywydd bendigedig a gawsom ni dros Ŵyl y Banc wedi rhoi mwy o hwb fyth i’r diwydiant.”
Mae canolfan ymwelwyr ‘Profiad y Bathdy Brenhinol’ wedi cael £2.3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’r arian wedi helpu’r Bathdy Brenhinol i ddiogelu 147 o swyddi yn ei his-adran arian coffaol a chreu nifer o swyddi newydd yn sgil datblygu ac agor yr atyniad newydd. Mae’r ganolfan ymwelwyr newydd yn rhannu dros 1,000 o flynyddoedd o hanes o wneud arian ac mae modd gweld beth sy’n mynd ymlaen yn y Bathdy hefyd. Ers agor yr atyniad ar 18 Mai, mae wedi bod yn brysur iawn ac mae wedi croesawu dros 5,100 o bobl.
Dywedodd Anne Jessopp, Cyfarwyddwr Arian Coffaol y Bathdy Brenhinol:
“Ers i Brofiad y Bathdy Brenhinol agor ar 18 Mai, mae wedi bod yn brysur tu hwnt. Rydym yn croesawu ymwelwyr o bell ac agos i atyniad twristiaid diweddaraf Cymru. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn rhoi cyfle i ymwelwyr glywed dros 1,000 o flynyddoedd o hanes gwneud arian a’r arloesedd a’r chrefftwaith sy’n gwneud y Bathdy Brenhinol yn un o’r atyniadau enwocaf yn y byd.”