Yn ôl adroddiad newydd gan y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, mae’r sector treftadaeth yn cyfrannu £963 miliwn at economi Cymru bob blwyddyn ac yn cynnal dros 40,500 o swyddi.
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi croesawu’r adroddiad hwn sydd wedi casglu data 18 o brif sefydliadau treftadaeth Cymru ac sy’n tynnu sylw at gynnydd o 4.4% yn nifer yr ymweliadau â safleoedd yn ystod y saith mlynedd diwethaf.
Dywedodd:
“Mae’r adroddiad hwn yn nodi rôl hanfodol y sector treftadaeth yng Nghymru, sydd wedi helpu i ysbrydoli a diffinio ein cenedl.
“Mae’n wych cael gweld y sector yn mynd o nerth i nerth. Bellach, gwerth y sector treftadaeth yng Nghymru yw £960 miliwn ac mae’n cynnal dros 40,500 o swyddi. Hefyd, mae bron 440,000 o bobl bellach yn aelodau o gyrff treftadaeth yng Nghymru.
“Mae’r sector yn fwy parod nag erioed i arloesi ac i ddefnyddio ffyrdd gwahanol o annog y cyhoedd i ymweld â safleoedd a’u mwynhau. Yn wir, mae llawer o’n safleoedd godidog wedi chwarae rôl hollbwysig wrth sicrhau llwyddiant ein hymgyrchoedd twristiaeth diweddar: Blwyddyn y Chwedlau a Blwyddyn Antur.
“Yng Nghymru mae gennym dreftadaeth unigryw ac amrywiol sy’n destun eiddigedd i lawer ac yn destun balchder inni i gyd. Byddwn yn parhau i gydweithio â’r sector i sicrhau bod y tueddiadau cadarnhaol hyn yn parhau.”