Neidio i'r prif gynnwy

Pwy i gysylltu â nhw am help, cefnogaeth a chyngor os ydych yn gweithio yn y sector Gofal Plant, Gwaith Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar.

Llywodraeth Cymru

Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisi, canllawiau, grantiau a deddfwriaeth ym maes gofal plant a chwarae, gan gynnwys rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Cysylltwch â thîm Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn Llywodraeth Cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Safonau Gofynnol Cenedlaethol; y Cynnig Gofal Plant; Cyllid; canllawiau Covid-19 a Chynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (y Cynllun Nanis), talkchildcare@llyw.cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch Dechrau’n Deg, cysylltwch â flyingstart2@llyw.cymru neu ynghylch y Cyfnod Sylfaen, cysylltwch â GwybCyfnodSylfaen@llyw.cymru

Arolygiaeth Gofal Cymru

Arolygiaeth Gofal Cymru yw rheoleiddiwr annibynnol gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru. Mae AGC yn cofrestru ac yn arolygu gwasanaethau gan ddefnyddio’r rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae AGC hefyd yn cymeradwyo nanis o dan gynllun cymeradwyo Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch ag AGC os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ac arolygu.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol am gynnal a goruchwylio hyfforddiant, cymwysterau a datblygiad yn sector y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cysylltwch â Gofal Cymdeithasol Cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch pa gymwysterau sydd eu hangen er mwyn gweithio yn sector y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru neu ynghylch adnoddau i’ch helpu yn eich gwaith.

Awdurdodau Lleol

Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau bod y gofal plant yn eu hardal yn ddigonol, a sefydlu cynlluniau i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau a nodir. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd pob Awdurdod Lleol yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar yr ystod o wasanaethau sydd ar gael i Blant a Phobl Ifanc.

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gefnogaeth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Sefydliadau Gofal Plant a Chwarae Ambarél

Mae nifer o sefydliadau sy’n cynnig cefnogaeth i fathau penodol o leoliadau gofal plant a gwaith chwarae:

  • Cysylltwch â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs (CPCKC) ynghylch cymorth, datblygu a chefnogaeth i glybiau gofal plant y tu allan i’r ysgol.
  • Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn cynnig cefnogaeth i ddarparwyr y blynyddoedd cynnar (0-5) yng Nghymru.
  • Mae arweiniad a chyngor ynghylch gwasanaethau blynyddoedd cynnar, gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg ar gael drwy Mudiad Meithrin.
  • Os ydych yn darparu gwasanaeth meithrin, a bod angen cefnogaeth arnoch, gall Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd helpu.
  • Gall Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar – PACEY Cymru – eich cefnogi os ydych yn gweithio ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar fel gwarchodwr plant neu nani, neu mewn unrhyw rôl arall
  • Cysylltwch â Chwarae Cymru i gael cyngor, cefnogaeth ac arweiniad ar chwarae plant ac ar y cymwysterau gofynnol ar gyfer safleoedd gwaith chwarae a reoleiddir.