Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddi’r dosbarthiad o weithwyr yng Nghymru o Gyfrifiad Poblogaeth 2011.

Gan ddefnyddio’r dosbarthiad o Ardaloedd Adeiledig ar y lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is a gyhoeddwyd yn ddiweddar mewn 'Ffit gorau a ardaloedd cynnyrch ehangach haen is i ardaloedd adeiledig'. Mae'n ymchwilio i'r gwahaniaethau a’r nodweddion tebyg yn y dosbarthiad o weithwyr yn ôl sector diwydiannol ar draws feintiau gwahanol o Ardaloedd Adeiledig.

Prif bwyntiau

  • Mae'r adroddiad yn dangos enghraifft o ddefnyddio'r ffit orau ar gyfer dosbarthu Ardaloedd Adeiladwyd gyda data Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is. Mae'n edrych ar y gwahaniaethau rhwng ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru a'r nodweddion sy’n gyffredin iddynt. Mae'r adroddiad yn archwilio'r sectorau diwydiannol y mae pobl sy'n byw yng Nghymru yn gweithio ynddynt ar draws aneddiadau sy’n amrywio yn ôl eu maint.
  • Mae'r adroddiad yn dangos patrwm cymysg iawn o weithio. O’r 1,909 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is yng Nghymru, mae gan 10 un sector sy’n cyfrif am o leiaf 30% o'r gweithwyr sy’n byw yn yr ardal honno. Mae'r gyfran fwyaf ychydig yn is na 50%. Byddai’n fwy nodweddiadol i’r sector mwyaf mewn ardal gyfrif am rhwng 15% a 25% o gyfanswm y gweithwyr sy'n byw yn yr ardal honno.
  • Mae'r gyfran o gyflogaeth yn y sector amaeth, fel y byddem yn disgwyl, yn llawer uwch yn yr ardaloedd gyda maint aneddiadau llai. Mewn 37 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is amaethyddiaeth yw’r sector unigol mwyaf. Mae’r  gyfran fwyaf o weithwyr yn y sector hwn ychydig dros 27%. Yn y categori mwyaf gwledig (aneddiadau o lai na 2,000 o bobl yn y Cyd-destun lleiaf poblog) mae gan ychydig yn llai na hanner yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is o leiaf 10% o’u gweithwyr yn y sector amaeth.
  • Y sectorau mwyaf yng Nghymru yw manwerthu, iechyd, gweithgynhyrchu ac addysg. Mae'r sectorau hyn yn tueddu i fod y cyflogwyr mwyaf ar draws pob un o'r grwpiau maint Ardal Adeiledig.

Adroddiadau

Sector diwydiannol o weithwyr yn ôl maint yr ardal adeiledig, 2011 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 855 KB

PDF
Saesneg yn unig
855 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.