Mae Lesley Griffiths, wedi siarad am ei huchelgais i weld sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030 ac mae'n gofyn i bobl am eu barn ynghylch sut i daro'r targed hwnnw.
Er mai dim ond cyfran fach o allyriadau Cymru y mae'r sector cyhoeddus yn gyfrifol amdano, mae ei sefyllfa'n unigryw oherwydd ei ddylanwad ehangach ar allyriadau mewn meysydd fel trafnidiaeth, ynni a defnydd tir.
Yn ogystal â mynd i’r afael â llygredd yn yr aer, gall y sector gael effaith bositif ar yr economi leol trwy leihau costau ynni a thrwy greu cyfleoedd buddsoddi ar gyfer economi carbon isel.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet nawr yn chwilio am dystiolaeth o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig â'r uchelgais i fod yn garbon niwtral, gan gynnwys a ddylid defnyddio targedau pontio a sut y dylid monitro a thracio cynnydd.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi dros £2m y flwyddyn i nodi a chefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy a phrosiectau arbed ynni yn y sector cyhoeddus. Erbyn diwedd tymor y Llywodraeth hon, disgwylir y bydd bron £70m wedi'i fuddsoddi mewn prosiectau ynni yn y sector cyhoeddus.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae Cymru eisoes yn flaenllaw ar lefel fyd-eang o ran gweithredu dros arafu'r newid yn yr hinsawdd, gan arwain y ffordd o ran ailgylchu yn y DU a chreu deddfwriaeth arloesol sy'n ein hymrwymo i darged statudol o ostwng allyriadau o leiaf 80% erbyn 2050.
"Rwy'n credu y dylai'r sector cyhoeddus arwain trwy esiampl trwy leihau allyriadau. Dyna pam yr hoffwn weld y sector yn garbon niwtral erbyn 2030. Rwy'n awyddus i glywed eich barn ynghylch sut orau i wynebu heriau penodol a sut i wireddu'r cyfleoedd a'r manteision. Bydd y dystiolaeth yn ein helpu i benderfynu ar hynt y gwaith yn y maes pwysig hwn."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cymryd camau breision, trwy ei brosiect Carbon Bositif sy'n cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru. Wrth gyfrif effaith carbon net y sefydliad, gwelwyd bod dros 80% o'i allyriadau'n rhai anuniongyrchol, gyda 55% yn dod o gaffael nwyddau a gwasanaethau yn unig. Mae'r canlyniadau'n dangos bod y sefydliad yn garbon bositif net; gan storio mwy o garbon bob blwyddyn nag y mae'n ei ryddhau trwy ei waith.
Fel rhan o'r Prosiect, mae CNC wedi creu opsiynau ymarferol ar gyfer lleihau allyriadau a chryfhau ei stociau carbon. Er enghraifft, gwelodd y gallai sicrhau hyd at 27% o ostyngiad yn allyriadau ei fflyd gerbydau trwy fabwysiadu opsiynau cludiant isel eu hallyriadau.
Mae CNC yn bwrw ymlaen â gweithgareddau eraill hefyd, gan gynnwys gosod pwyntiau gwefru, prynu cerbydau trydan a chynnal gwelliannau i wneud ei adeiladau'n rhatach ar ynni, gan gydnabod y dadleuon economaidd yn ogystal â'r rhai amgylcheddol dros weithredu.
Caiff y gwersi a ddysgwyd ar y prosiect eu rhannu â sector cyhoeddus Cymru er mwyn eu hannog i ddilyn esiampl CNC.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae'n dda iawn clywed am y gwaith ardderchog y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud trwy'r Prosiect Carbon Bositif a hoffwn weld eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn dilyn eu harweiniad. Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar brosiectau tebyg yn ein swyddfeydd."
Dywedodd Jennifer Kelly, arweinydd y Prosiect Carbon Bositif ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Fel corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am yr amgylchedd yng Nghymru, mae gennym ran bwysig i'w chwarae wrth fynd i'r afael â hinsawdd sy'n newid. Mae ein Prosiect Carbon Bositif wedi bod yn uchelgeisiol o ran deall ein heffaith ar allyriadau carbon a'r cyfleoedd i'w gostwng.
"Un cyfle rydym wedi'i weld yw defnyddio technolegau allyriadau isel yn ein fflyd cerbydau, a allai olygu gostyngiad o hyd at 27% yn ein hallyriadau a 5% yn ein costauRydym ni hefyd wedi bod yn cynnal prosiectau arddangos cyffrous i leihau ein carbon nawr, gan gynnwys defnyddio cerbydau trydan, gosod ynni adnewyddadwy ac adfer mawnogydd.
"Rydym ni'n disgwyl ymlaen at rannu'n profiadau ag eraill yn nes at ddiwedd y flwyddyn gan obeithio y gwnawn ni annog mwy o ddatgarboneiddio yng Nghymru."