Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r atyniad newydd gwerth £15 miliwn wedi cael £720,000 o grant Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r atyniad newydd gwerth £15 miliwn wedi cael £720,000 o grant Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth gan Lywodraeth Cymru. 

Bydd SC2 yn agor i'r cyhoedd ar 5 Ebrill 2019 ac mae'r gwaith adeiladu'n mynd rhagddo'n dda ar safle wrth ymyl Tŵr yr Awyr ar brom y Rhyl.  O dan ei do y bydd arena chwarae TAGactive cyntaf Cymru, y TAG Plant cyntaf yn y DU, ynghyd â man chwarae dŵr awyr agored a than do i bobl o bob oed a gallu, ffordd ddŵr, man padlo, llithrenni arbennig a phum lle bwyd thematig. 

Ar ôl ei agor, bydd SC2 yn creu neu'n diogelu 65 o swyddi a disgwylir iddo ddenu mwy na 350,000 o ymwelwyr i'r ardal. 

Cafodd y Gweinidog gyfle i weld sut mae'r atyniad yn dod yn ei flaen.  Mae'r ochrau i gyd yn eu lle ac mae adeilad TAGactive yn dechrau siapio.  Y cam nesaf yw ychwanegu'r dŵr yn yr wythnosau nesaf. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"Mae'n wych gweld y gwaith sydd wedi'i wneud ar SC2 ac rydyn ni'n awr yn disgwyl ymlaen at ei agor flwyddyn nesaf yn atyniad bob tywydd ac un o atyniadau penna'r dref. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiect ac yn hapus hefyd i weld y gwelliannau mawr eraill ar y prom.  Wrth ymyl SC2 y mae Theatr y Pafiliwn ar ei newydd wedd ac mae busnesau eraill y sector preifat hefyd yn dangos hyder ac yn buddsoddi yn y dref." 

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Cynghorydd dros Les ac Annibyniaeth:

"Rydym yn falch iawn bod cymaint o gyffro wrth ddisgwyl i’r  SC2 agor ac roeddem yn falch iawn o groesawu'r Dirprwy Weinidog i'r Rhyl.  Gwelodd drosto'i hun y cynnydd aruthrol sy'n cael ei wneud gyda'r gwaith adeiladu, a sut mae SC2 yn cyd-fynd ag adfywiad ehangach y Glannau yn y Rhyl.

"Bydd yn atyniad o'r radd flaenaf i holl arfordir Gogledd Cymru a disgwylir y bydd yn denu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i'r dref bob blwyddyn. Bydd hyn o fantais fawr i economi y Rhyl, Sir Ddinbych a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru, yn ogystal â darparu profiad hamdden unigryw sy'n gwneud i bobl fod eisiau ymweld â'r Rhyl dro ar ôl tro ".

Cafodd y Dirprwy Weinidog gyfle i ymweld hefyd â Pro Kitesurfing a agorodd yn 2014.  Dyma ganolfan unigryw sy'n dod â phentref barcudfyrddio Olympaidd cyffrous a chwaraeon ffasiwn newydd i ganol y Rhyl.