Neidio i'r prif gynnwy
Sarah Murphy AS

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyfrifoldebau

  • Gwasanaethau iechyd meddwl
  • Atal hunanladdiad
  • Dementia
  • Niwroamrywiaeth
  • Anabledd dysgu
  • Gwasanaethau caethiwed
  • Effaith gamblo cymhellol ar iechyd
  • Tybaco a Fepio
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd
  • Gweithgarwch corfforol a hamdden egnïol yng Nghymru
  • Arloesi, technoleg a thrawsnewid digidol ym maes iechyd
  • Iechyd menywod
  • Iechyd Aelodau a Chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog

Bywgraffiad

Cyn cael ei hethol, graddiodd Sarah o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd gydag MA (Rhagoriaeth) mewn Cyfryngau Digidol a Chymdeithas. Rhwng 2019 a 2021, ymchwiliodd i ddefnydd llywodraethau'r DU a rhyngwladol o ddata mawr a dulliau dylunio algorithmig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus – gan ganolbwyntio ar nodi niwed data posibl a gwahaniaethu yn erbyn plant a theuluoedd. Yn 2024, cyhoeddwyd ei hymchwil gyda'r Labordy Cyfiawnder Data i undebau llafur a deallusrwydd artiffisial yn y gweithle yn y cyfnodolyn Transfer: European Journal of Labour and Research, a adolygir gan gymheiriaid.

Ym mis Mai 2022, rhoddodd Sarah araith yn Siambr y Senedd am ei phrofiad ei hun o fod ag anhwylder bwyta pan oedd yn ei harddegau ac mae wedi bod yn awyddus i hyrwyddo ac chryfhau lleisiau'r rhai â phrofiad byw i wella gwasanaethau. Roedd Sarah hefyd yn Ymddiriedolwr ar gyfer Canolfan Adsefydlu Alcohol a Chyffuriau Cymru hyd nes iddi gael ei hethol.

Cyn cael ei phenodi i Lywodraeth Cymru, roedd Sarah yn aelod o Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd a gynhaliodd yr ymchwiliad i ofal canser gynaecolegol ac anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.

Ar 11 Medi 2024, penodwyd Sarah yn Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

Ysgrifennu at Sarah Murphy