Neidio i'r prif gynnwy
Sara Pedersen

Graddiodd Sara o’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn 2005 ac ers hynny mae hi wedi gweithio yn y sector anifeiliaid fferm.

Cyn dod yn ôl i’w chartref yn Ne Cymru yn 2014, treuliodd hi amser ym maes milfeddygaeth anifeiliaid fferm mewn nifer o rannau o’r DU, yn ogystal â threulio cyfnod yn gweithio i gwmni fferyllol a gweithio dramor.

Mae hi bellach yn rhedeg busnes ymgynghori sy’n darparu gwasanaethau hyfforddiant a chyngor ar destunau sy’n gysylltiedig ag iechyd buchod.

Mae hi bellach yn gyfarwyddwr gyda Chymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain ac yn aelod y Grŵp Llywio ar Symudedd Gwartheg Llaeth.