Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi croesawu penderfyniad Aston Martin i wneud Sain Tathan yn "Gartref Trydaneiddio".
Mae'r brand ceir moethus wedi cyhoeddi heddiw y bydd ei ganolfan gweithgynhyrchu newydd yn Sain Tathan yn dod yn ganolfan y brand ar gyfer trydaneiddio ac yn gartref brand Lagonda, y car methus cyntaf di-garbon.
Bydd y Rapide E yr Aston Martin cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru pan fydd y gwaith cynhyrchu yn dechrau yn 2019.
Bydd yn y model cyntaf gan Aston Martin i fod yn gyfan-gwbl drydan, a bydd yn gerbyd trydan hynod ddeniadol gyda'r lefelau perfformiad y'u disgwylir gan Aston Martin.
Meddai'r Prif Weinidog, Carwyn Jones
"Dwi'n falch iawn o benderfyniad Aston Martin i sefydlu eu canolfan gweithgynhyrchu newydd yn Sain Tathan. Dangosodd hyder arbennig yn ymagwedd fentrus Llywodraeth Cymru ac yn y cymorth y gallwn ei gynnig i fusnesau sydd am weithio gyda ni.
"Mae cyhoeddiad heddiw y bydd Sain Tathan hefyd yn "Gatref Trydaneiddio" ar gyfer Aston Martin a Lagonda yn fuddugoliaeth arall enfawr i Gymru. Mae'n dystiolaeth gwirioneddol o enw da, ymroddiad a sgiliau ein gweithlu. Mae hefyd yn cryfhau ymhellach berthynas Cymru ag Aston Martin, ac mae'n enghraifft ragorol a gwirioneddol o sut y gallu cymorth Llywodraeth Cymru weithredu fel catalydd ar gyfer twf economaidd pellach a chreu swyddi."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn glir ynghylch pwysigrwydd datgarboneiddio i ddyfodol ein heconomi felly rwyf wrth fy modd bod Aston Martin wedi gwneud y penderfyniad i wneud Sain Tathan yn ganolfan ar gyfer cynhyrchu cerbydau trydan.
"Rwy'n hyderus y bydd y penderfyniad hwn, yn uniongyrchol a thrwy y gadwyn gyflenwi yn helpu i sbarduno twf economaidd gwirioneddol ac yn arwain at greu swyddi mwy dawnus yng Nghymru."
Meddai Dr Andy Palmer, Llywydd Aston Martin a'r Prif Swyddog Gweithredol:
"Mae Aston Martin yn gweld eu hunain fel arweinwyr y dyfodol wrth ddatblygu technolegau di-garbon, ac rwyf yn falch iawn y bydd Sain Tathan yn 'Gartref Trydaneiddio' ar gyfer brandiau Aston Martin a Lagonda.
"Bydd y Rapide E yn arwain datblygiad strategaeth cerbydau di-garbon a charbon isel Aston Martin. Gan ail-gyflwyno brand Lagonda, dyma ddangos pa mor amlwg yw trydaneiddio yn ein cynllun busnes wrth symud ymlaen."