Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r egwyddor o drin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal. 

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (y "Mesur") yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â'r Gymraeg. Nodir y safonau presennol yn Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015. Mae'r Mesur yn darparu y caiff Comisiynydd y Gymraeg, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol gydymffurfio â rhai o'r safonau a bennir neu bob un ohonynt. 

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi hysbysiad cydymffurfio ar gyfer Gweinidogion Cymru sy'n pennu pa rai o'r safonau sy'n gymwys ar hyn o bryd i unrhyw weithgaredd neu wasanaeth a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan. Gall y gweithgareddau neu'r gwasanaethau hyn fod yn rhan o drefniadau a chytundebau ffurfiol neu anffurfiol. Mae copi o fersiwn ddiweddaraf yr hysbysiad cydymffurfio ar gael yn Hysbysiad cydymffurfio Comisiynydd y Gymraeg.

Mae'n bwysig bod y darparwyr gwasanaethau yn ymgyfarwyddo â'r safonau hyn. Mae'r tabl isod yn amlygu'r rhai sydd fwyaf perthnasol i ddarparwyr gwasanaethau'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Darllenwch y rhain ochr yn ochr â'r hysbysiad cydymffurfio llawn.

Y gwasanaeth a ddarperirY safonau perthnasol
Gohebiaeth1, 2, 3, 4, 5, 6, 7
Llinellau ffôn cymorth neu ganolfannau galwadau8, 9, 10, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 21
Cyfarfodydd ag aelodau o’r cyhoedd26, 26A, 29
Cyhoeddusrwydd a hysbysebu

37

 

Arddangos deunydd yn gyhoeddus38
Cyhoeddi dogfennau40, 47, 48, 49
Cyhoeddi ffurflenni50, 50A, 50B, 51
Gwefannau a gwasanaethau ar-lein52, 55, 56, 57
Cyfryngau cymdeithasol58, 59
Arwyddion61, 62, 63
Codi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg81, 82

At ddibenion yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a chwestiwn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, y rhai sy'n darparu gwasanaeth ar ran Gweinidogion Cymru ac y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r safonau a nodir yn y tabl yw:

  • Canolfannau Asesu Anghenion, gan gynnwys canolfannau cymorth, sy'n darparu eu gwasanaethau i fyfyrwyr Cyllid Myfyrwyr Cymru sy'n byw yng Nghymru.

Er nad ydynt wedi'u diffinio'n gyfreithiol fel rhai sy'n darparu eu gwasanaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ystyrir ei bod yn arfer gorau i'r darparwyr gwasanaethau canlynol fodloni'r safonau lle y bo'n bosibl:

  • Darparwyr Gwasanaethau Technoleg Gynorthwyol (ATSPs) sy'n darparu gwasanaethau a chyflenwadau i fyfyrwyr sy'n cael eu hariannu gan Gyllid Myfyrwyr Cymru sy'n byw yng Nghymru.
  • Swyddogion cymorth anfeddygol sy'n darparu gwasanaethau, hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol a chymorth i fyfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr Cymru sy'n byw yng Nghymru.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gall gwasanaeth fodloni'r safonau hyn (Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr, gweler y safonau llawn yn y tabl):

  • gwefannau, dogfennau gwybodaeth a chanllawiau dwyieithog yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth a gynigir ac yn ei hyrwyddo
  • llinellau cymorth a systemau archebu dwyieithog

Dyma rai enghreifftiau o sut mae gwasanaeth yn ymgysylltu â myfyriwr y mae’n well ganddo ddefnyddio’r Gymraeg (Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr, gweler y safonau llawn yn y tabl):

  • cyfathrebu â'r myfyriwr drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ysgrifenedig neu ar lafar
  • darparu dogfennau a deunyddiau hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg
  • darparu asesiad neu raglen gymorth drwy gyfrwng y Gymraeg

Cyn bo hir, byddwn yn anfon arolwg drwy e-bost at ddarparwyr gwasanaethau i'n helpu i greu darlun o sut mae Safonau'r Gymraeg yn cael eu bodloni ar hyn o bryd gan ddarparwyr gwasanaethau Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.