Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Hydref 2016.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 360 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar y safonau hyn fydd yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswydd ar y sector iechyd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y rheoliadau fyddai’n gwneud y canlynol:
- gwella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn
- cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg
- ei gwneud yn eglur i gyrff beth sydd angen iddynt ei wneud
- sicrhau lefel briodol o gysondeb ar draws y sector.
Digwyddiadau
Rydym yn trefnu dau ddigwyddiad ymgynghori er mwyn casglu barn ar y Rheoliadau drafft sy’n pennu safonau’r Gymraeg i gyrff yn y sector iechyd. Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un sydd â diddordeb yn y safonau, a’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector iechyd.