Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebeca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi croesawu ffigurau newydd sy'n dangos bod cynnydd yn nifer y tai yng Nghymru sy'n cyrraedd safonau ansawdd allweddol yn y sector tai cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddiwedd mis Mawrth 2018, roedd 91% o dai a oedd o dan reolaeth awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru. Roedd hyn yn gynnydd o bum pwynt canran o'i gymharu â blwyddyn yn gynharach.

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn mesur 42 o elfennau ar draws saith categori, sef:

  • bod tai mewn cyflwr da
  • bod tai yn saff ac yn ddiogel
  • bod tai yn cael eu gwresogi'n ddigonol, eu bod yn effeithlon o ran tanwydd a'u bod wedi'u hinswleiddio'n dda
  • bod tai yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
  • bod tai yn cael eu rheoli'n dda (yn achos tai ar rent)
  • bod tai wedi'u lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
  • bod tai yn addas i anghenion penodol yr aelwyd (e.e., anableddau penodol).

Dywedodd Rebeca Evans:

“Rydym yn buddsoddi £108m yn flynyddol i helpu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i wella ansawdd ein stoc o dai cymdeithasol yng Nghymru ac i gydymffurfio'n llawn â tharged SATC erbyn 2020. Mae'n gwbl amlwg i mi fod rhagor o waith i'w wneud, ond mae'r ffigurau hyn yn dangos bod ein buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth.

“Mae darparu tai o ansawdd da yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru oherwydd bod hynny'n hanfodol i'n hiechyd a'n lles. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud wrthym fod tai gwael yn costio £67m y flwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Felly mae'r buddsoddiad hwn yn fuddsoddiad yn iechyd pobl, yn fuddsoddiad er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd ac yn fuddsoddiad i wella bywyd pobl.

“Rwy'n falch o weld cynnydd da yn cael ei wneud o ran y targed hwn ac rwy'n disgwyl gweld awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn gweithio i'w gyrraedd erbyn 2020.”