Neidio i'r prif gynnwy

Prif nod y fframwaith newydd ar gyfer gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion arbennig yw ymdrin â phlant mewn ysgolion arbennig mewn ffordd fwy cyson.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Prif nod y fframwaith newydd ar gyfer gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion arbennig yw ymdrin â phlant mewn ysgolion arbennig mewn ffordd fwy cyson, drwy ddarparu mynediad at wasanaethau prif ffrwd ac arbenigol.

Mae'r fframwaith yn disgrifio'r ffordd y mae nyrsys ysgolion arbennig yn gweithio gyda phlant, ysgolion a theuluoedd i sicrhau bod y plant yn derbyn gofal iechyd o'r un ansawdd uchel â phlant mewn ysgolion prif ffrwd.  

Golyga hyn bod nyrsys ysgolion arbennig yn gwneud addasiadau rhesymol i helpu plant i gael y gofal iechyd sydd ei angen arnynt. Ar ben hynny, a llawn mor bwysig, bydd y fframwaith hwn yn sicrhau bod plant a theuluoedd yn derbyn gofal iechyd arbenigol pan fo'i angen.

Mae hefyd yn gosod disgwyliadau er mwyn sicrhau bod plant ag anghenion ychwanegol sylweddol sydd angen gofal iechyd mewn ysgolion eraill yn cael cymorth. 

Rhan o hynny yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol eraill mewn timau cymunedol ac arbenigol yn gallu gweithio’n drefnus gyda'r plentyn yn yr ysgol.

Bydd yn golygu gweithio mewn ffordd 'tîm o amgylch y plentyn' - sy'n cydnabod swyddogaeth bwysig nyrsys ysgolion arbennig. Wrth ddechrau mynd ati i roi'r fframwaith hwn ar waith, byddwn yn edrych ar y ffordd y mae timau cymunedol plant yn gweithredu er mwyn datblygu dull gweithredu cyson i gefnogi plant a'u teuluoedd. 

Mae'r fframwaith yn adlewyrchu dyheadau cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol - Cymru Iachach. Rhoddir cryn dipyn o sylw i swyddogaeth iechyd y cyhoedd nyrsys mewn ysgolion yn gyffredinol. Helpu i adnabod materion iechyd sy'n effeithio ar blant yn gynnar yw un o brif swyddogaethau hybu iechyd y nyrs. 

Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:

"Rwy'n falch iawn o fedru lansio'r fframwaith newydd hwn ar gyfer nyrsys sy'n gweithio mewn ysgolion arbennig. Mae'r gwaith pwysig hwn yn adeiladu ar y fframwaith gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion presennol, sy'n disgrifio gofal iechyd i bob plentyn mewn ysgolion ar draws Cymru. 

"Rwy'n ystyried bod swyddogaeth nyrsys ysgolion arbennig yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y gofal wedi'i gydlynu, bod teuluoedd a gofalwyr yn cael eu cynnwys, a bod gan blant ag anghenion dysgu ychwanegol fynediad at y gofal sydd ei angen arnynt. Rwy' am nodi a chydnabod y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan nyrsys ysgolion arbennig.

"Mae'r fframwaith sy'n cael ei gyhoeddi heddiw wedi'i lunio i'w helpu drwy ddarparu dull gweithredu cyson, i sicrhau eu bod yn darparu'r gofal a'r cymorth gorau posib i blant ym mhob ysgol ar draws Cymru."