Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn nodi safonau a disgwyliadau newydd ar gyfer sicrhau gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol diogel ac o ansawdd uchel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd disgwyl i fyrddau iechyd roi'r dewis llawn i fenywod beichiog o ran lleoliad geni, hyd yn oed os yw hynny'n golygu defnyddio gwasanaethau y tu hwnt i ffiniau'r bwrdd iechyd.

Bydd menywod beichiog a'u teuluoedd yn cael mwy o lais wrth ddatblygu gwasanaethau i helpu i wella canlyniadau a phrofiadau.

Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a'r fframwaith ymgysylltu amenedigol newydd a gyhoeddir heddiw yn amlinellu sut y bydd y GIG yn gwella gwasanaethau ac yn disgrifio'r hyn y mae gwasanaethau da yn ei olygu.

Mae'r datganiad ansawdd wedi'i ddatblygu yn dilyn adolygiadau uchel eu proffil o wasanaethau mamolaeth ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru.

Daw hefyd wrth i dystiolaeth ddangos y ceir cymhlethdodau cynyddol yn ystod beichiogrwydd, a hynny yn sgil y ffaith bod menywod yn fwy tebygol o ddioddef o diabetes, mynegai màs y corff uchel a phroblemau iechyd meddwl amenedigol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Mae beichiogrwydd a genedigaeth yn ddigwyddiadau sy'n newid bywydau menywod a'u teuluoedd.

Mae staff gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn chwarae rhan enfawr yn y profiadau hyn, a bydd ein safonau newydd yn helpu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i ddarparu gofal o ansawdd uchel a gwella canlyniadau i bob menyw.

Rydyn ni'n gwybod bod adroddiadau annibynnol yn y DU wedi tynnu sylw at bryderon ynglŷn â phrofiadau gwael menywod a babanod.

Rydyn ni wedi gwrando ar y pryderon a byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod lleisiau menywod yn ganolog i'r gofal maen nhw'n ei gael. Mae gwrando ar fenywod, rhieni a theuluoedd yn gallu achub bywydau, ac yn gwneud hynny.

Rydyn ni'n helpu i roi gwelliannau ar waith ledled Cymru, a chefais gyfle wythnos diwethaf i weld sut y bydd ein buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf yn Uned Obstetreg a Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Glangwili yn helpu staff i roi gofal o safon a rhoi'r dechrau gorau posibl i'r babanod mwyaf agored i niwed.

Mae menywod o gefndiroedd ethnig leiafrifol hefyd yn wynebu rhwystrau sylweddol yn ystod beichiogrwydd, sy'n arwain at wahaniaethau negyddol o ran eu canlyniadau iechyd.

Bydd ymwneud â menywod a'u teuluoedd yn allweddol a disgwylir i fyrddau iechyd, drwy gynnal arolygon, ymchwil ac ymgysylltu amser real, wrando ar syniadau, pryderon ac adborth menywod beichiog, a gweithredu arnynt.

Bydd rhaid i fyrddau iechyd hefyd ymwneud â menywod o grwpiau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn nodi rhwystrau o ran cael gafael ar gymorth.

Bydd hyn yn helpu i gynnwys pob menyw, pob rhiant a phob teulu i ddatblygu'r gwasanaethau y maent eu heisiau a'u hangen.