Lansiwyd set newydd o safonau heddiw (20 Mawrth) gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, a fydd yn codi lefel y gwasanaeth y mae cleifion yng Nghymru yn ei gael gan eu practisau meddygon teulu.
Dangosodd canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol diweddar leihad ym modlonrwydd pobl â gwasanaethau meddyg teulu, o 90% yn fodlon â’r gwasanaeth yn 2016-17 i 86% yn 2017-18. Roedd 42% o’r rheini a gymerodd ran yn ei chael yn anodd gwneud apwyntiad yn eu practis, sydd wedi cynyddu o 38% yn y flwyddyn flaenorol.
Dylai pobl yng Nghymru wybod beth i’w ddisgwyl pan fyddant angen cyngor ynglŷn â’u hiechyd a’u llesiant, pan fyddant angen cysylltu â meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, a pha ddewisiadau eraill sydd ar gael iddynt.
I gefnogi hyn, y safonau newydd a gyhoeddwyd heddiw yw:
- Bydd pobl yn cael ymateb prydlon wrth iddynt ffonio eu practis meddygon teulu.
- Mae gan bractisau systemau ffôn priodol i gefnogi anghenion pobl, gan osgoi’r angen i orfod ffonio yn ôl sawl gwaith, a byddant yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymdrin â galwadau fel hyn.
- Bydd pobl yn cael gwybodaeth ddwyieithog am wasanaethau lleol a gwasanaethau brys wrth gysylltu â phractis.
- Gall pobl gael mynediad at wybodaeth ynglŷn â sut i gael cymorth a chyngor.
- Mae pobl yn cael y gofal cywir ar yr adeg gywir mewn modd cydgysylltiedig sy’n seiliedig ar eu hanghenion.
- Gall pobl ddefnyddio amryw o ddulliau i gysylltu â’u practis.
- Gall pobl anfon e-bost at bractis yn gofyn am ymgynghoriad nad yw’n un brys, neu alwad yn ôl.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r holl bractisau meddygon teulu yng Nghymru gyflawni’r safonau hyn erbyn mis Mawrth 2021, gyda chefnogaeth eu Byrddau Iechyd Lleol. Bydd cymorth ariannol, a fydd yn cael ei gyhoeddi gyda hyn, ar gael i bractisau wrth iddynt ymdrechu i gyflawni’r safonau hyn a sicrhau bod cleifion ym mhob rhan o Gymru yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan eu practis.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Rwy’n gwybod bod meddygon teulu a’u timau yn y practis dan bwysau i ddiwallu’r galw sydd arnynt, ond rwy’n gwybod hefyd nad yw disgwyliadau pobl o ran cael mynediad i wasanaeth meddyg teulu yn cael eu diwallu ar hyn o bryd.
“Nid diben y cyhoeddiad hwn heddiw yw rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau meddygon teulu. Y diben yw eu bod nhw’n cyflawni gwasanaeth o safon y byddai cleifion Cymru yn ei ddisgwyl fel isafswm.
“Mewn nifer o bractisau yng Nghymru, bydd y safonau yr ydw i wedi’u cyhoeddi heddiw eisoes ar waith, ond i eraill bydd hon yn daith tuag at welliant. Dros amser, hoffwn weld y safonau hyn yn datblygu ymhellach fel bod gwasanaethau yn gwella yn barhaus i ddinasyddion Cymru.”